Mae rhai o fusnesau Caerdydd yn croesawu ymweliad Brenin Lloegr â’r brifddinas yfory (dydd Gwener Medi 16), ac yn disgwyl haid o gwsmeriaid er gwaetha’r ffaith y bydd rhai strydoedd ynghau.
Mae rhai o ffyrdd y brifddinas eisoes wedi cau er mwyn paratoi ar gyfer y digwyddiad, gan gynnwys Stryd y Castell, sef cartref Fabulous Welshcakes a Castle Welsh Crafts.
Dyma’r tro cyntaf i Charles III ymweld â Chymru ers dod yn Frenin Lloegr a throsglwyddo rôl Tywysog Cymru i’w fab William, yn dilyn marwolaeth Elizabeth II, Brenhines Lloegr.
Bydd Brenin Lloegr a’r Frenhines Gydweddog yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llandaf, Castell Caerdydd a’r Senedd.
Croesawu ymwelwyr i gacenni cri
Un sy’n groesawgar yw Karen Jones, perchennog Fabulous Welshcakes, sef un o’r siopau mwyaf adnabyddus am eu cacenni cri yng Nghaerdydd.
“Mae’n rhaid i mi ddweud, dw i’n reit bositif amdano,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl bydd awyrgylch rili da yn y dref achos mae beth rydyn ni’n mynd drwy ar y funud, yn ddigwyddiad unwaith mewn oes i bawb.
“Mi fydd o’n hanesyddol a dw i’n meddwl bydd y dref yn buzzing.”
Ei gobaith, wrth gwrs, yw y bydd ymweliad Brenin Lloegr â Chastell Caerdydd yn tynnu cwsmeriaid i mewn i’w siop.
“Bydd pobol yn ciwio i’w weld o ac mae gennym ni fantais o fod efo siop reit o flaen y castell, a hefyd yn y Bae,” meddai.
“Rydyn ni jest dros y ffin oddi wrthyn nhw ac felly efallai y bydd Caerdydd yn nes i bobol ddod i’w weld na Llundain.
“Felly, dw i’n edrych ymlaen at groesawu pobol newydd i’r ddinas a’u croesawu nhw i gacenni cri.”
Gwerthu cynnyrch Jac yr Undeb am y tro cyntaf
Mae un siop eisoes wedi gweld budd o’r ymweliad, gyda mwy o dwristiaid na’r arfer.
Busnes annibynnol sy’n cael ei redeg gan deulu ers dros 40 mlynedd yw Castle Welsh Crafts, ac maen nhw’n gwerthu popeth Cymreig, o lwyau caru i grysau-T Cwpan y Byd.
“Mae hi wedi bod yn fore manic, â nifer anarferol o dwristiaid Americanaidd,” meddai’r perchennog Rob Bryce.
“Bydd yna lot o bobol yn dod i weld beth sydd yn mynd ymlaen ac efallai’n gobeithio dal cip o’r Brenin a’r Frenhines Gydweddog, felly dw i’n meddwl bydd yna effaith knock-on.
“Rydyn ni yma ers dros 40 mlynedd, ac wedi gweld yr holl fynd a dod o’r castell ond mae’r ymweliad yma mor bwysig.”
Mae gan y siop stoc newydd hefyd, nad ydyn nhw erioed wedi’i werthu o’r blaen, sef baneri Jac yr Undeb.
“Dydyn nhw ddim fel arfer yn cadw unrhyw stoc Jac yr Undeb, ond mae gennym ni’r rhain fel bod y rheiny sydd eisiau dangos eu gwladgarwch yn gallu,” meddai wedyn.
“Mi fyddwn ni hefyd yn codi’r faner yfory pan fydd y Brenin yn cyrraedd.”
Protest: Cwestiynu rôl y teulu brenhinol yng Nghymru wrth i Frenin Lloegr ymweld â’r brifddinas
Y Brenin Charles yn ymweld â Senedd Cymru: Beth allwn ni ei ddisgwyl?