Prifysgol Aberystwyth yw’r brifysgol orau yng Nghymru am ragoriaeth dysgu a bodlonrwydd myfyrwyr, yn ôl The Times & The Sunday Times Good University Guide 2023.
Mae’r brifysgol yn nhraean uchaf prifysgolion y Deyrnas Unedig sy’n cael sylw yn y canllaw, lle caiff y data diweddaraf ei ddefnyddio i lunio tabl cynghrair o brifysgolion.
Mae’r canllaw yn ystyried bodlonrwydd myfyrwyr ac ansawdd y dysgu a phrofiad ehangach y myfyrwyr, ansawdd yr ymchwil, cymarebau myfyrwyr/staff, cyfraddau cwblhau graddau a rhagolygon graddedigion wrth greu’r tabl.
Daw’r llwyddiant diweddaraf hwn wedi llwyddiant Prifysgol Aberystwyth yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) a gafodd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.
Bryd hynny, cafodd ei chadarnhau’n brifysgol orau Cymru am fodlonrwydd myfyrwyr am y chweched flwyddyn yn olynol.
‘Tyst i waith caled ac ymroddiad ein staff’
“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cynnal yr enw da sydd gennym ers amser maith am fodlonrwydd rhagorol ein myfyrwyr ac ansawdd eithriadol y dysgu,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
“Mae hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein staff, sy’n mynd yr ail filltir i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad rhagorol ac yn gwireddu eu potensial.
“Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu ei phen blwydd yn 150 eleni. Yn ogystal â bod yn gyfle i goffáu cyfraniad sylweddol y sefydliad i’r byd ers agor fel prifysgol gyntaf Cymru yn 1872, mae hefyd yn adeg i ddathlu datblygiadau newydd ac uchelgeisiau’r dyfodol wrth i ni barhau i ymateb i’r heriau sy’n wynebu cymdeithas heddiw.
“Ymhlith y datblygiadau diweddar mae agor Ysgol Filfeddygaeth gyntaf Cymru a dechrau darparu addysg gofal iechyd trwy gyfrwng ein graddau Nyrsio newydd.
“Bydd y ddau ddatblygiad cyffrous hyn yn creu gwydnwch yn yr economi wledig ac yn cefnogi twf gweithlu cynaliadwy yn y Canolbarth a thu hwnt.”