Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi diswyddo’u rheolwr Steve Morison.

Fe ddaw yn dilyn y golled o 1-0 yn Huddersfield ddoe (dydd Sadwrn, Medi 17).

Mae’r canlyniad yn gadael yr Adar Gleision yn 18fed yn y Bencampwriaeth ar ôl ennill dim ond 11 o bwyntiau yn eu deg gêm.

Mae Caerdydd wedi diolch i Steve Morison, ac wedi cyhoeddi y bydd Mark Hudson yn gofalu am y tîm am y tro, gyda’r Cymro Cymraeg Tom Ramasut yn ei gynorthwyo.