Fe wnaeth Gerwyn Price guro’r Iseldirwr Dirk van Duijvenbode o 11-10 mewn gêm derfynol gyffrous yn Amsterdam i ennill Cyfres Dartiau’r Byd neithiwr (nos Sul, Medi 18).

Mae’n ddwy flynedd ers iddo fe ennill y gystadleuaeth yma ddiwethaf, ac fe gasglodd e’r wobr o £70,000 fis yn unig ar ôl ennill Meistri Seland Newydd.

Cipiodd e’r tlws gyda chymal 14 dart, gan efelychu cymalau cynta’r ornest wrth i Price dorri tafliad ei wrthwynebydd i fynd ar y blaen o 3-2 cyn ymestyn ei fantais i 4-2.

Ond brwydrodd yr Iseldirwr yn ôl i adennill y flaenoriaeth, a mynd ar y blaen o 6-4 ac yna 7-6 cyn i Price fynd ar y blaen eto o 9-8 wrth daflu 146, 121 a 116 wrth i’w wrthwynebydd fethu sawl cyfle.

Ond brwydrodd van Duijvenbode yn ôl unwaith eto i fynd ar y blaen o 10-9 cyn i Price orffen gêm 12 dart i fynd â’r ornest i’r cymal olaf a thaflu 90 i gipoio’r tlws.

“Dw i wrth fy modd o gael croesi’r llinedd,” meddai’r Cymro.

“Chwaraeodd Dirk yn wych ond dw i’n credu bo fi wedi chwarae ychydig bach yn well.

“Roedd hi’n gêm wych, ond ro’n i wedi ei gwneud hi’n anodd i fi fy hun.

“Roedd dau neu dri chymal lle wnes i fethu dyblau, ac yn 5-5 wrth fynd i mewn i’r ail egwyl gallwn i fod wedi bod ar y blaen o 7-3.

“Ro’n i’n gwybod o’r fan honno ei bod hi am fod yn frwydr galed.

“Roedd Dirk yn chwarae’n dda iawn ac yn amlwg, roedd y dorf yn ei gefnogi fe ond wnes i barhau hyd y diwedd.

“Fe wnes i roi cyfle i fi fy hun yn y cymal olaf, a chrafu i groesi’r llinell.”