Swydd Derby yw gwrthwynebwyr tîm criced Morgannwg yn eu gêm olaf ond un yn y Bencampwriaeth – a’u gêm olaf ar eu tomen eu hunain – wrth iddyn nhw barhau i gwrso dyrchafiad i’r Adran Gyntaf y tymor nesaf.
Colli wnaethon nhw yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Middlesex, a honno’n golled a allai gostio’n ddrud iddyn nhw, gyda’r sir Llundeinig hefyd yn cwrso am ddyrchafiad, ac wedi adeiladu blaenoriaeth o 12 pwynt dros y sir Gymreig yn y ras.
Yn y cyfamser, mae Swydd Derby saith pwynt y tu ôl i Forgannwg yn y pedwerydd safle, wrth iddyn nhw gystadlu am yr ail safle hollbwysig hefyd, felly gallai canlyniadau’r gemau eraill fod yn allweddol i’w gobeithion nhw hefyd.
Bydd Morgannwg yn falch nad yw Shan Masood, y batiwr tramor o Bacistan, bellach ar gael i’r ymwelwyr, ar ôl iddo fe gael ei alw i garfan ugain pelawd Pacistan ar gyfer y gyfres yn erbyn Lloegr, sy’n dechrau’r wythnos nesaf, a Chwpan y Byd.
Mae carreg filltir o fewn cyrraedd i’r batiwr profiadol Wayne Madsen, ac yntau wedi sgorio 1,104 o rediadau yn y Bencampwriaeth eleni – dim ond Sam Northeast o Forgannwg (1,154) a Ben Compton o Swydd Nottingham (1,128) sydd wedi sgorio mwy na fe ar draws y ddwy adran.
Mae gan Sam Conners 42 o wicedi dosbarth cyntaf eleni, ac mae’r 50 yn sicr o fewn ei afael pe bai’n perfformio ar ei orau.
Un i’w wylio, efallai, yw Adam Sylvester, y bowliwr 22 oed sydd wedi codi o’r ail dîm ar gyfer dwy gêm ola’r tymor.
Gemau’r gorffennol
Yn gynharach y tymor hwn, daeth yr ornest rhwng Morgannwg a Swydd Derby yn Derby i ben yn gyfartal, wrth i Forgannwg frwydro’n ddewr wrth gwrso 331 mewn 55 o belawdau ar ôl i Brooke Guest daro canred yn y naill fatiad a’r llall, tra bod Marnus Labuschagne wedi dod o fewn 15 rhediad i gyflawni’r nod ar y diwrnod olaf hefyd.
Dyma ymweliad cyntaf Swydd Derby â Gerddi Sophia yng Nghaerdydd ers y gêm ddydd a nos o dan y llifoleuadau â’r bêl binc yn 2017, pan enillodd yr ymwelwyr o 39 rhediad, gyda’r troellwyr Hamidullah Qadri (pum wiced am 60), yn ei gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth, a Jeevan Mendis o Sri Lanca yn achosi’r difrod.
Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Derby yng Nghaerdydd ers 2014, pan darodd Chris Cooke a Graham Wagg hanner canred yr un i arwain eu tîm i fuddugoliaeth o 106 o rediadau, gyda Michael Hogan hefyd yn cipio pedair wiced am 38.
Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), T Bevan, E Byrom, K Carlson, C Cooke, S Gill, A Gorvin, J Harris, M Hogan, S Northeast, A Patel, B Root, A Salter, T van der Gugten
Carfan Swydd Derby: B Godleman (capten), L Reece, B Guest, H Came, W Madsen, L du Plooy, A Dal, A Thomson, S Conner, N Potts, B Aitchison, A Sylvester