Bydd yna “golled anferth” ar ôl Hag Harris yn Ngheredigion, medd un o’i ffrindiau Gary Slaymaker wrth golwg360.

Bu farw Robert George Harris yn 66 oed ddoe (dydd Mawrth, Mai 31).

Yn wreiddiol o Coventry, symudodd i dref Llanbedr Pont Steffan er mwyn astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru.

Wedi iddo adael y Brifysgol, ymgartrefodd yn y dref, gan ddysgu Cymraeg yn rhugl a rhedeg ei siop recordiau, Hag’s.

Bu’n wweithiwr cymdeithasol am gyfnod, ac roedd yn ddilynwr pêl-droed brwd, gan wasanaethu fel dyfarnwr a swyddog yng nghynghreiriau Cymru.

Roedd yn aelod o Gyngor Ceredigion ers ei sefydlu yn 1995 a chyn hynny, yn aelod o Gyngor Sir Dyfed ers 1981.

Newydd gael ei ailethol oedd o ddechrau’r mis, ac ef oedd yr unig aelod Llafur ar Gyngor Ceredigion.

Roedd hefyd yn aelod o Gyngor Tref Llanbed, ac yn Faer presennol y dref.

‘Un ohonom ni’

Dywed Gary Slaymaker, sy’n wreiddiol o Lanbed, y bydd Hag Harris yn cael ei gofio fel “un ohonom ni”.

“Dw i’n cofio ar ôl iddo adael y coleg a phenderfynu byw yn Llanbed, a chyn iddo sefydlu’r siop recordiau, roedd o’n gwerthu finyl allan o fflat bach oedd ganddo fe ar dop High Street os dw i’n cofio’n iawn,” meddai’r digrifwr a chyflwynydd wrth golwg360.

“Roedd criw ohonom ni oedd mewn i stwff pync ac ati ddaeth i’w ‘nabod e ar yr adeg yna.

“O hynny, roeddet ti jyst yn bwmpio mewn i Hag drwy’r amser o gwmpas y dref.

“Pan sefydlodd e’r siop gyntaf, ro’n i mewn ac allan yn rheolaidd.

“Beth oedd yn hyfryd oedd, yn y dyddiau cynnar wrth gwrs doedd e ddim yn siarad Cymraeg, ond roedd ganddo fe gymaint o feddwl o’r ardal ac o ddiwylliant Cymraeg, roeddet ti’n cymryd e fel un ohonom ni, un o’r bobol leol math o beth.

“Ac wrth gwrs, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio a bod e’n gweithio i Gyngor Tref Llanbed ac wedyn mynd yn Gynghorydd Sir, roeddet ti’n gallu gweld faint o feddwl oedd ganddo fe o’i gartref fabwysiedig.”

‘Colled anferth’

Bydd Gary Slaymaker wastad yn ddiolchgar i Hag Harris am roi cymorth iddo pan gollodd ei Dad.

“Cwpl o fisoedd ar ôl i’n Nhad farw, ro’n i mas yn Llanbed a bwmpies i mewn i Hag yn un o dafarnau’r dref.

“Daeth e lan a cloncian achos, wrth gwrs, welais i fe adeg yr angladd.

“Ond daeth e draw a jyst cael gair, roedd ganddo fe eiriau hyfryd am yr hen foi a buodd e’n sôn am sut i ddelio gyda galar.

“Roedd e’n gymaint o help.

“Roedd e’n fwy na rhywun oeddet ti’n gallu cael peint a mwynhau ei gwmni fe, roedd e’n werthfawr fel person hefyd dw i’n credu.

“Bydd yna golled anferth ar ei ôl.”

‘Bydd y dre’ yn dawel’

Un arall sydd wedi talu teyrnged i Hag Harris yw Elin Jones, Llywydd y Senedd.

“Newyddion trist iawn i Lambed heddiw gyda marwolaeth annisgwyl Hag Harris,” meddai ar Facebook.

“Bydd y dre’ yn dawel am hir heb Hag.

“Diolch Hag am ddewis Llambed ac am wasanaethu’r dref mor driw.

“Pob cydymdeimlad gyda’i deulu a’i ffrindiau agos.”

‘Llais clir a chadarn’

Mae Hag Harris wedi cael ei ddisgrifio fel dyn oedd â “llais clir a chadarn” gan Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.

“Mae’r newyddion trist hwn am ein cyfaill a’n cyd-weithiwr, y Cynghorydd Hag Harris, wedi dod yn sioc fawr i ni gyd,” meddai.

“Cafodd ei ethol i Ward Llanbedr Pont Steffan, Cyngor Sir Ceredigion yn 1995, a chyn hynny roedd yn Aelod o Gyngor Sir Dyfed ers 1981.

“Roedd yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion yn ystod 2018-2019 ac roedd yn llais clir a chadarn i’w drigolion ac i’r dref a oedd mor agos at ei galon.

“Roedd Hag wastad yn barod ei gymwynas ac i gynnig geiriau o gefnogaeth neu ddoethineb ar draws llawr y Siambr; mi welwn eisiau ei gymeriad hoffus.

“Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a’i gymar yn eu profedigaeth.” 

Ymateb ar Twitter

Mae llu o deyrngedau wedi’u rhoi i Hag Harris ar Twitter hefyd, gan gynnwys Aelod Seneddol Ceredigion Ben Lake, yr Aelod Llafur o’r Senedd Alun Davies, a chyn-Aelod Seneddol Ceredigion Mark Williams.