Ar faes Eisteddfod yr Urdd, mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg yn Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi cyllid newydd i ail-lansio Theatr Ieuenctid yr Urdd, sef Cwmni Theatr Ieuenctid Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1m dros gyfnod o bum mlynedd i gefnogi ail-lansiad y theatr.

Cafodd Cwmni Theatr Ieuenctid Cymru ei sefydlu yn y 1970au, gyda’r nod o ddarparu cyfleoedd i bobol ifanc rhwng 14 ac 19 oed i fwynhau ac ehangu eu profiadau celfyddydol trwy gyfrwng y Gymraeg, ond fe ddaeth i ben yn 2019.

Mae’r Urdd yn dathlu eu canmlwyddiant eleni, gydag Eisteddfod yr Urdd, sy’n dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019, yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych.

“Rwy’n falch ein bod ni’n gallu cefnogi’r Urdd i ail-sefydlu’r Theatr Ieuenctid, a fu’n darparu cyfleoedd i gynifer o actorion ifanc dros genedlaethau, gyda rhai ohonynt wedi symud ymlaen i enwogrwydd byd-eang, meddai Jeremy Miles.

“Bydd y theatr yn parhau â’i thraddodiad o ddarparu cyfleoedd i bobol ifanc o bob cefndir i weithio gyda goreuon y theatr, gan agor byd y ddrama Gymraeg i gynulleidfa newydd sbon drwy gysylltiadau cymunedol cryf yr Urdd.”

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Jeremy Miles AS am gadarnhau cefnogaeth parhaus Llywodraeth Cymru i’r Urdd fel Mudiad, drwy sicrhau dyfodol Theatr Ieuenctid yr Urdd am y bum mlynedd nesaf,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi strategaeth y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac yn benderfynol o gynnal a datblygu ar werth canrif o’n gwasanaeth a darpariaeth i blant a phobol ifanc Cymru ymhell i’r dyfodol.”

‘Cyfleoedd bythgofiadwy’

“Dros y degawdau, mae Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi cynnig cyfleoedd unigryw a bythgofiadwy i rai miloedd o ieuenctid Cymru oedd â diddordeb ym myd y theatr. Gwelwn yr angen heddiw – yn fwy nag erioed yn sgil effaith Covid – i ddarparu cyfleoedd cyfartal a hyfforddiant amhrisiadwy i’n hoedolion ifanc sydd eisiau dilyn gyrfa yn y celfyddydau, ac mi fydd ail-sefydlu’r Theatr Ieuenctid yn cynnig hynny ar lefel cenedlaethol,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.