Mae gwersyll yr Urdd Glan-llyn yn gobeithio recriwtio hyfforddwyr awyr agored drwy bartneriaeth newydd â Choleg Meirion-Dwyfor.

Bydd myfyrwyr sy’n astudio Gradd Sylfaen mewn Hamdden Awyr Agored yn Nolgellau yn cael cyfle i wneud cais am gynllun hyfforddi Glan-llyn, ochr yn ochr â’u gradd.

Yn ôl Huw Antur, Pennaeth Gwersyll Glan-llyn, mae yna brinder hyfforddwyr awyr agored, yn enwedig rhai cyfrwng Cymraeg.

Fe fydd y bartneriaeth yn gyfle i fyfyrwyr gwblhau eu hastudiaethau academaidd gyda hyfforddiant sgiliau ymarferol, ac ennill cymwysterau awyr agored pellach a sgiliau gwaith.

‘Recriwtio parhaus’

Mae’r holl bartneriaid ar eu hennill yn sgil y cynllun, meddai Huw Antur wrth lansio’r cynllun yn Eisteddfod yr Urdd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 1).

“Mae’n dda i Glan-llyn, rydyn ni’n gallu gwneud cysylltiad efo’r bobol ifanc yna sydd gan ddiddordeb yn y maes. Mae o’n ffordd dda o recriwtio parhaus,” meddai Huw Antur wrth golwg360.

“Mae o’n faes lle mae pobol yn gadael, mae rhai pobol yn edrych arno fo fel gyrfa tymor byr cyn mynd ymlaen i bobol eraill.

“Mae’n gyfle i ni fwydo staff i mewn i’r tîm, yn y gobaith eu bod nhw, os oes ganddyn nhw ddiddordeb gwirioneddol yn y maes, yn gwneud gyrfa go iawn yn y maes.

“Mae yna brinder hyfforddwyr awyr agored. Mae yna brinder hyfforddwyr awyr agored, ond mae yna brinder mwy o hyfforddwyr cyfrwng Cymraeg.

“Fyswn i’n hysbysebu fory am hyfforddwr profiadol, cymwys awyr agored, ga’i hwyrach un ymgeisydd, fwy na thebyg dim un. Os ydyn ni eisiau’r staff rydyn ni’n gorfod eu creu nhw.

“Mae Glan-llyn wedi bod yn rhedeg cynlluniau hyfforddiant ers ugain mlynedd a mwy, ond mae hwn yn ychwanegu dimensiwn ychwanegol at hynny.

“Mae gennym ni fel gwersyll berthynas agos gyda’r Brifysgol ym Mangor hefyd, mae’n gylch cyflawn.”

Drwy’r cynllun, mae Glan-llyn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr sy’n dilyn y cwrs weithio am ddau ddiwrnod yr wythnos yn ennill cyflog a phrofiad.

“Trwy ddatblygu hyfforddiant a chymwysterau yn yr awyr agored, bydd myfyrwyr yn cael profiadau gwerthfawr, yn ogystal â chyfle i roi eu gwaith theori ar waith mewn lleoliad ymarferol. Bydd myfyrwyr yn dechrau fel Hyfforddwyr Awyr Agored yn y ganolfan,” meddai Sion Lloyd o Lan-llyn.

‘Cyflogaeth berthnasol’

“Rydym yn croesawu’r fenter hon yn fawr gan ei fod yn caniatáu i ddysgwyr Gradd Sylfaen gael cyflogaeth berthnasol yn ardal y coleg,” meddai Eifion Owen, Rheolwr Maes Rhaglen y cwrs Gradd Awyr Agored yn Nolgellau.

“Bydd hyn o fudd i’r profiad dysgu ac yn galluogi’r Urdd i gyflogi unigolion dawnus, lleol.”