Mae Mind Cymru yn dweud eu bod nhw’n deall pwysigrwydd cael mynediad at wybodaeth am iechyd meddwl yn newis iaith y bobol sy’n troi atyn nhw, a bod hynny’n un o’r prif resymau pam eu bod nhw’n rhan o’r Cynnig Cymraeg.

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal diwrnod arbennig heddiw (dydd Mercher, Mehefin 1) i ddathlu llwyddiant busnesau ac elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg.

Ymhlith y busnesau sy’n cael cydnabyddiaeth heddiw mae Boots a Principality, gyda Mind Cymru a Macmillan Cymru ymysg yr elusennau sydd wedi cael eu cydnabod hefyd.

Mae cyfle heddiw i ddathlu’r diwrnod am y tro cyntaf ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych.

Cafodd cynllun y Cynnig Cymraeg ei ddatblygu gan Gomisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gwybod pa wasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddyn nhw.

Mae’r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth swyddogol gan y Comisiynydd, ac mae’n cael ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddfa’r Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol.

Ers i’r cynllun gael ei lansio ddwy flynedd yn ôl, mae 55 o fusnesau ac elusennau wedi cael cydnabyddiaeth, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn cydweithio â thros gant yn rhagor ar hyn o bryd.

Manteision iechyd o gael gwasanaethau yn Gymraeg

Yn ôl Mind Cymru, mae ganddyn nhw fwy o dudalennau gwybodaeth yn Gymraeg ar eu gwefan erbyn hyn, yn ogystal â mwy o weithwyr cyswllt sy’n siarad Cymraeg.

Mae hyn yn eu galluogi i gynnig gwasanaethau yn eu dewis iaith i fwy o bobol sy’n troi atyn nhw am gymorth iechyd meddwl, gan gynnwys y rhaglen hunangymorth dan arweiniad Monitro Gweithredol.

“Mae’n hollbwysig bod pobol yn gallu cael help gyda’u hiechyd meddwl yn yr iaith y maent fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio,” meddai Julia James, Pennaeth Rhaglenni Mind Cymru.

“Dyna pam rydyn ni wedi recriwtio mwy o weithwyr cyswllt sy’n siarad Cymraeg, yn y gogledd a’r de.

“Rydyn ni’n gwybod y gall pobl ei chael hi’n anodd siarad am eu hiechyd meddwl, ac ni ddylai iaith fod yn rhwystr arall i hynny.”

Mae Monitro Gweithredol eisoes wedi helpu dros 11,500 o bobol yng Nghymru i ddelio â phroblemau gan gynnwys straen, pryder, iselder, a hunan-barch isel.

Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn rhad ac am ddim i bawb yng Nghymru.

Mae gan Mind Cymru hefyd fwy o wybodaeth Gymraeg nag erioed ar eu gwefan, fel rhan o’u hymrwymiad parhaus i’r Cynnig Cymraeg.

Mae’r tudalennau newydd ar gyfer oedolion yn cynnwys Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT), ac Ymwybyddiaeth Ofalgar.

Mae dadansoddiad data yn dangos bod dros 20,000 o bobl wedi defnyddio tudalennau Cymraeg Mind Cymru yn ystod tri mis cyntaf 2022, dros 50% yn uwch na’r un adeg y llynedd.

“Mae cefnogaeth iaith Gymraeg yn gwbl hanfodol, a dyna pam mae ein holl wybodaeth fwyaf poblogaidd am iechyd meddwl ar gael yn Gymraeg,” meddai Julia James.

“Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n anodd cael gafael ar wasanaethau yn Gymraeg, ac mae’r anghydraddoldeb hwn yn golygu nad yw siaradwyr Cymraeg yn cael y cymorth maen nhw ei angen, pan maen nhw ei angen.

“Mae strategaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o bobol i siarad Cymraeg erbyn 2050 yn golygu bod angen gwneud llawer mwy i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl o safon i bobol yn yr iaith o’u dewis.”

Blogiau a phrofiadau personol yn Gymraeg

Ochr yn ochr â’r tudalennau gwybodaeth mae Mind Cymru yn eu cynnig i bobol â phroblemau iechyd meddwl, mae hefyd nifer o flogiau Cymraeg.

Profiadau personol yw’r rhain sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth i wneud yn siŵr nad yw pobol yn teimlo ar eu pen eu hunain ar ôl cael diagnosis.

Mae’r elusen hefyd yn hyrwyddo ei holl ymgyrchoedd a gwasanaethau cenedlaethol yn ddwyieithog, ac mae wedi ymrwymo i hyrwyddo cefnogaeth iaith Gymraeg i bobl ledled Cymru.

 

Cynnig Cymraeg

Busnesau ac elusennau yn dathlu’r defnydd o’r Gymraeg ar ddiwrnod y Cynnig Cymraeg

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal diwrnod arbennig i ddathlu llwyddiant y busnesau a’r elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg