Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gynnig sicrwydd y bydd trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn gweithredu’n ddi-drafferth dros ŵyl banc Jiwbilî Platinwm Brenhines Lloegr.

Daw’r pryderon wrth i Drafnidiaeth Cymru rybuddio am amhariad posib i wasanaethau oherwydd galw mawr.

Mae maes awyr Caerdydd hefyd yn dweud bod trafferthion wedi bod dros y dyddiau diwethaf, gyda rhai teithwyr yn gorfod disgwyl mwy na 40 awr i fynd ar eu hediad.

Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal dros y penwythnos, gan gynnwys yr ŵyl gerddoriaeth In It Together ym Mhort Talbot, a chyngherddau yn Abertawe a Chaerdydd.

Yna ar ddydd Sul (Mehefin 5), bydd tîm pêl-droed Cymru yn herio un ai Wcráin neu’r Alban yn Stadiwm Dinas Caerdydd am le yng Nghwpan y Byd.

Ar ben hynny, mae disgwyl i dywydd cynnes ddenu ymwelwyr i’r arfordir gan roi pwysau ar Reilffordd y Cambrian a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru, yn ogystal â seilwaith trafnidiaeth leol ym Mharciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Eryri.

‘Diffyg parodrwydd’

“Mae angen i ni weld diweddariad brys gan Lee Waters (Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth) ar gynlluniau i sicrhau bod system drafnidiaeth gyhoeddus Cymru yn ymdopi yn ystod y dyddiau nesaf,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Rydym eisoes wedi gweld aflonyddwch yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf a phroblemau parhaus ym Maes Awyr Caerdydd dros y bythefnos ddiwethaf.

“Dylai Lee Waters gyhoeddi diweddariad brys cyn penwythnos gŵyl y banc yn nodi’r hyn sydd wedi’i wneud i baratoi ar gyfer y penwythnos hwn.

“Mae angen sicrwydd arnom fod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau rhagweithiol i sbario teuluoedd rhag aflonyddwch teithio.

“Mae’r Llywodraeth wedi cael misoedd i baratoi ar gyfer y penwythnos hwn, os yw’n dod i ben gyda tharfu ar deithio ar raddfa fawr, mae’n rhaid i Lafur fod yn barod i wynebu craffu hallt am eu diffyg parodrwydd.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.