Mae gwreiddiau Non yn ddwfn yn Sir Ddinbych, a hithau wedi ei geni yn Rhuddlan a’i haddysgu yn Ysgol Gynradd Dewi Sant y Rhyl ac yna Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.

Yn blentyn ac yn berson ifanc, roedd yn gystadleuwr brwd yn yr Urdd o dan hyfforddiant a gofal Gwen Parry Jones a Rhys Jones (sef rhieni Caryl Parry Jones sy’n fodryb ac ewythr i Non).

Aeth yn ei blaen i astudio a graddio mewn Astudiaethau Theatr o Goleg y Drindod, Caerfyrddin.

Yn 21 oed, daeth yn un rhan o dair o un o fandiau mwyaf eiconig a phoblogaidd Cymru, Eden.

Roedd Emma, Rachel a Non wedi cystadlu llawer gyda’u gilydd yn yr Urdd, a ffurfio Eden yn ddilyniant naturiol i’r dair.

Dros y blynyddoedd mae Non wedi troi ei llaw at amryw o brosiectau ac yn dangos ei dawn mewn nifer o feysydd celfyddydol.

Roedd yn un o brif actorion y gyfer Hotel Eddie a bu’n cyflyno rhaglen gerddoriaeth Garej yn y 90au.

Mae hefyd yn sgriptwraig brofiadol sydd wedi gweithio ar nifer o raglenni yn cynnwys rhaglenni Cyw, Jonathan a Bex, rhaglen sy’n trafod iechyd meddwl plant a phobol ifanc.

Yn llysgennad swyddogol gwefan cymorth iechyd meddwl, meddwl.org, mae Non wedi siarad yn agored am ei phrofiadau hi gyda iechyd meddwl, ac wedi gweithio ar nifer o brosiectau i gefnogi’r elusen ac i godi ymwybyddiaeth, yn cynnwys cynhyrchu a chyflwyno dwy gyfres o bodlediad poblogaidd Digon i’r BBC sy’n sgwrsio yn onest am iechyd meddwl.

Yn 2021, cyhoeddodd ei hunangofiant, ‘Paid â bod ofn’, cyfrol sy’n trafod iechyd meddwl yn onest iawn.

Mae Non bellach yn byw yn Bridell yn y gorllewin gyda’i thri o blant a’i gŵr, yr actor Iwan John, ac maen nhw’n briod ers 21 o flynyddoedd.

Mae newydd orffen ei hail flwyddyn yn astudio MA yn seicotherapi ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Abertawe.

Eleni, mae Eden yn dathlu 25 mlynedd ers iddyn nhw sefydlu a rhyddhau’r gân enwog ‘Paid a Bod Ofn’.


Beth yw dy hoff atgof o’r Urdd?

Casglu llofnodion! A cystadlu yng nghystadleuaeth y Gân Actol pob blwyddyn.

 

Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd?

Do, LOT! Unawdau, deuawdau, parti unsain, deulais, cân actol …popeth ond cerdd dant rili!

 

Ydy’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn dy fywyd proffesiynol?

Heb os byswn i ddim yn perfformio heddiw heb yr Urdd. Ges i gymaint o brofiad, disgyblaeth, cael y cyfle i berfformio ar lwyfannau enfawr… Mae’n rhan ENFAWR o ble nes ddysgu perfformio.

 

Pa gystadleuaeth wyt ti’n fwynhau ei wylio fwyaf yn yr Eisteddfod?

Deuawdau, mae ffeindio partneriaeth sy’n asio yn dda yn lyfli i’w glywed.

 

Beth, yn dy farn di, yw’r peth gorau am yr Urdd?

Y cyfle mae o’n ei roi i unrhyw un i roi cynnig arni, a bod o’n cynnwys coginio, celf, chwaraeon ag ati, nid jysd perfformio. Mae o mor gynwysedig a hygyrch.

 

Beth mae bod yn Lywydd y Dydd ym mlwyddyn canmlwyddiant yr Urdd yn ei olygu i ti?

Mae’n sbesial iawn iawn. Mor falch fod y canmlwyddiant yn cael ei ddathlu yn ein hardal ni ac mae cael bod yn rhan o’r dathliad arbennig yma gyda’r hanes sydd gen i efo’r Urdd a chael y cyfle i ddiolch i’r Urdd, yn golygu lot.