Josh Osborne o Poole yw enillydd Medal y Dysgwyr ac Anna Ng o Gaerdydd yw enillydd Medal Bobi Jones, Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Bu i’r enillwyr dderbyn eu medalau mewn seremoni ar Lwyfan y Cyfrwy heddiw (dydd Mawrth, Mai 31) ar ôl cwblhau amrywiol dasgau a gafodd eu gosod iddyn nhw ar faes yr ŵyl.

Nod cystadleuaeth Medal y Dysgwyr yw gwobrwyo unigolyn 19-25 oed sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg, a Medal Bobi Jones i ddysgwyr ifanc (Bl.10 – 19 oed).

Caiff y ddwy fedal eu dyfarnu i unigolyn sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd, mewn ysgol, coleg neu waith ac yn gymdeithasol yn ogystal â hyrwyddo ac annog y Gymraeg ymysg eraill.

Mae’r ddau yn ennill eu medalau ar ôl diwrnod o dasgau, a gafodd eu gosod i brofi iaith, hyder a gwybodaeth y cystadleuwyr terfynol.

Roedd hyn yn cynnwys paratoi postiad i gyfryngau cymdeithasol Eisteddfod yr Urdd, gwneud sesiwn holi ac ateb gyda Llywydd y Dydd Robat Arwyn, ynghyd â chyfweliad gyda beirniad y gystadleuaeth.

Josh Osborne

Daw Josh Osborne, enillydd Medal y Dysgwyr, yn wreiddiol o Poole yn Dorset.

Mae’n 24 oed a bellach yn byw yn Abertawe.

Mae’n diolch i’w gariad Angharad am ei ysbrydoli i gychwyn dysgu’r iaith gwta ddwy flynedd yn ôl.

“Dw i’n dysgu Cymraeg ers tua dwy flynedd bellach, ers i Angharad yrru dolen ata’i i gwrs dysgu Cymraeg ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg,” meddai.

“Mae fy niolch yn fawr i dri thiwtor, Helen Prosser, Angharad Devonald a Maldwyn Pate – diolch iddyn nhw, dw i’n gwneud yr arholiad uwch blwyddyn yma, ac yn medru edrych ymlaen at gael cymdeithasu a dod i adnabod mwy a mwy o bobl sy’n siarad Cymraeg.”

Beirniad Medal y Dysgwyr oedd Nerys Ann Roberts a Geraint Wilson Price.

Caiff Medal y Dysgwyr ei rhoi gan Glwb Rotari Dinbych, a noddwyr y seremoni oedd Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Anna Ng

Mae Anna Ng, enillydd 18 oed Medal Bobi Jones, yn mynychu Ysgol Uwchradd Caerdydd.

Mae hi wrthi’n astudio Cemeg, Cymraeg (Ail Iaith) a Saesneg ar gyfer ei Lefelau A, ac mae’n gobeithio mynd ymlaen i ddilyn cwrs Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Mae ei chefndir yn un diddorol, gyda’i thad yn dod o Tseina a’i mam yn wreiddiol o Norwy ac yna’r Alban.

Mae mam Anna hefyd wedi dysgu’r Gymraeg, ac oherwydd bod ei mam yn ddall, wedi llwyddo i wneud hynny drwy gyfrwng Braille.

Y ddwy gystadleuydd arall a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Medal Bobi Jones oedd dwy ffrind o Ferthyr Tudful, Millie-Rae Hughes (ail) a Deryn-Bach Allen-Dyer (trydydd).

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Siân Vaughan a Stephen Mason.

“Yng ngŵyl y canmlwyddiant, braint and phleser inni ym Mhrifysgol Caerdydd yw noddi seremoni’r Fedal sy’n dwyn enw’r dysgwr o Gaerdydd a wnaeth sut gymaint i rannu’r iaith ag eraill,” meddai’r Athro Jason Walford Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, fu’n noddi’r seremoni.

“Rhannwn y gwerthoedd y mae’r fedal honno yn eu dathlu: ymrwymiad i’r iaith a balchder wrth ei chlywed yn byrlymu ar dafodau newydd.”

“Wrth i’r Ganolfan baratoi i gynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobl ifanc 18-25 oed o fis Medi 2022 ymlaen, mae’n bleser cydweithio gyda’r Urdd i ddathlu llwyddiannau siaradwyr newydd ifanc y Gymraeg,” meddai Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Llongyfarchiadau enfawr i Josh am ennill Medal y Dysgwyr, ac i Anna, enillydd Gwobr Bobi Jones – ’dyn ni’n siŵr bydd eu straeon yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i fynd ati i fwynhau dysgu a siarad y Gymraeg.”

Cyhoeddi enillwyr Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones

Bethan Lloyd

Josh Osborne o Poole yw enillydd Medal y Dysgwyr ac Anna Ng o Gaerdydd yw enillydd Medal Bobi Jones