Mae Gŵyl y Gelli ymlaen flwyddyn yma rhwng Mai 26 a Mehefin 5.

Ar ôl dwy flynedd o dawelwch oherwydd y pandemig ac o ddathlu ar-lein, braf oedd gyrru dros mynyddoedd cyfarwydd Bannau Brycheiniog i weld drysau Gŵyl y Gelli yn ail-agor i’r cyhoedd wythnos yma! Yn union mor lliwgar a bywiog â beth roeddwn yn cofio, sylweddolais i ddim faint roeddwn i wedi gweld eisiau’r teimlad cartrefol a ddaeth efo gweld y torfeydd o bobol wedi dod i ddathlu llenyddiaeth a’r celfyddydau.

O lenyddiaeth a drama i grefftau, cerddoriaeth, hanes a bwyd: mae gan Ŵyl y Gelli rywbeth i bawb o bob oedran. Efo siopau a busnesau lleol yn gwerthu llyfrau ail law, tecstilau, gwin a jin o gwmpas y maes, pam na fyddech chi eisiau ymweld? Flwyddyn yma, mae dros 500 o ddigwyddiadau wedi eu rhannu dros y cyfnod, fel bod rhywbeth i’w weld bob dydd! Siawns i ddathlu celfyddydau o bob math ydy’r ŵyl, ond hefyd i allu cysylltu efo awduron, artistiaid, cyflwynwyr teledu ac ati, siawns i atgoffa a hybu bod y celfyddydau ar gyfer pawb a phob un.

Cartref yr Ŵyl yw ‘tref y llyfrau’, y Gelli Gandryll, sydd ar ffin ym Mhowys. Mae gan y dref dros ugain o siopau llyfrau, o siopau awyr agored ar y stryd i siopau ail law (dwi’n argymell bod pawb yn mynd i weld siop lyfrau Richard Booth, aka ‘Brenin y Gelli’!), i siopau thema penodol, fel The Poetry Bookshop. Mae’r dref yr un mor groesawgar â’r Ŵyl, yn enwedig amser yma’r flwyddyn. Yn gyffrous iawn, agorwyd Castell y Gelli i’r cyhoedd am y tro cyntaf flwyddyn yma, sydd yn golygu bod yr Ŵyl tu hwnt i’r maes.

Hanes a phwysigrwydd Gŵyl y Gelli

Pam, felly, fod yr Ŵyl mor bwysig? Beth yw ei hanes?

Cafodd siop lyfrau gyntaf y Gelli ei hagor yn 1962, ac erbyn y 70au, cafodd y llysenw ‘tref y llyfrau’. Cyn cael ei symud i’r maes rydyn ni’n ei weld heddiw, câi’r Ŵyl ei chynnal mewn mannau gwahanol yn y dref, gan gynnywys yr ysgol leol. Cafodd yr Ŵyl ei sefydlu fel sy’n dathlu llenyddiaeth yn unig yn 1988, ac ers hynny mae hi wedi ehangu i ddathlu’r celfyddydau.

Dros y blynyddoedd, mae’r Ŵyl wedi croesawu pob math o enwogion – yn awduron, newyddiadurwyr a gwleidyddion, i actorion, digrifwyr ac arlunwyr. Mae gwyliau fel Gŵyl y Gelli yn digwydd ar draws y byd bob blwyddyn, o Gymru i wledydd fel Sbaen, Colombia a Pheriw. Yn ogystal â hyn, mae’r sefydliad yn cynnig Gŵyl y Gelli lai o faint am benwythnos yn y gaeaf.

Erbyn heddiw, mae Gŵyl y Gelli yn croesawu ymwelwyr o bob rhan o’r byd i ddathlu. Mae dros 250,000 o ymwelwyr yn mynychu’r Ŵyl bob blwyddyn, sydd yn swm anferthol o ystyried mai tua 1,500 oedd poblogaeth y dref yn 2011!

Flwyddyn yma, mae’r Ŵyl yn croesawu enwogion fel Hillary Rodham Clinton i’r maes, dros ugain mlynedd ers i Bill Clinton fynychu’r Ŵyl a’i galw’n “The Woodstock of the mind”.

Mae Gŵyl y Gelli yn gyfle i ddathlu’r celfyddydau – hen a newydd – ac i ddathlu llenyddiaeth a’i heffaith ar hanes. O Shakespeare a’r Brontës, i awduron Cymraeg cyfoes fel Sioned Wiliam a Gwyneth Lewis, mae’r Ŵyl yn ein hatgoffa o bwysigrwydd y celfyddydau mewn cymdeithas.

Braf oedd gweld rhesi hir tu ôl i gownter siopau llyfrau’r Ŵyl, efo pobol o bob oed wedi dod at ei gilydd i ddathlu llenyddiaeth o bob math, awduron o bob cornel o’r byd. Does dim teimlad sy’n cymharu â chrwydro o gwmpas pabell yr Ŵyl ar ddiwrnod heulog dros hanner tymor.

Sicrhewch eich bod chi’n mynd draw i faes Gŵyl y Gelli yr wythnos yma, ac yn dathlu’r Ŵyl gyntaf yn ôl ers dechrau’r pandemig!