Yn enedigol o Dalysarn yn Nyffryn Nantlle, derbyniodd Robat Arwyn ei addysg gynradd yn Ysgol Talysarn a’i addysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Nantlle, cyn graddio mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerdydd yn 1980 ac yna ennill Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth y flwyddyn wedyn.

Ymunodd â Chôr Rhuthun ym Medi 1981, troi’n gyfeilydd yn 1987 yn ogystal â phriodi Mari, un o’r altos, a chafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Cerdd ar y côr yn 2008.

Bu’n Bennaeth y Gwasanaeth Llyfrgell yng Nghyngor Sir Ddinbych nes ymddeol yn 2017 i ganolbwyntio ar gyfansoddi.

Erbyn hyn mae’n gyfansoddwr llawn amser, yn feirniad, ac yn gyflwynydd radio a chaiff ei ganeuon eu perfformio’n aml ar draws Cymru a thu hwnt, gan artistiaid adnabyddus fel Syr Bryn Terfel, Rhys Meirion, The Priests, Shan Cothi, Côr Glanaethwy a llawer mwy.

Fel aelod o Driawd Aelwyd Rhuthun (Trisgell) ennillodd gystadlaeuaeth y Gân Werin Fodern yn Eisteddfod yr Urdd 1983 ac 1984, yn ogystal a’r triawd a’r pedwarawd cerdd dant, a bu hefyd yn aelod o gôr buddugol Côr Ieuenctid Rhuthun, dan arweiniad Morfydd Vaughan Evans.

Hefyd yn 1983 ac 1984 ennillodd Dlws y Cerddor, anrhydedd fu’n gyfrifol am agor sawl drws iddo fel cyfansoddwr a cherddor ar hyd blynyddoedd.

Cyd-ysgrifennodd ddwy sioe gerdd i’r Urdd – Eiddo Cesar yn 1992 ac Irmenio yn 1994.

Cafodd rhai o’i ganeuon eu dewis fel darnau gosod yn Eisteddfod yr Urdd 1990, ac mae’n hynod falch fod ei gyfansoddiadau yn dal i ymddangos yn y rhestr testunau, 30 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae wedi cyhoeddi 11 cyfrol o ganeuon, nifer o ddarnau corawl unigol, a chwe comisiwn i’r Eisteddfod Genedlaethol.


Beth yw dy hoff atgof o’r Urdd?

Methu meddwl am ddim ond un hoff atgof – mae cynifer ohonyn nhw. Ond pan dwi’n meddwl am yr Urdd dwi’n meddwl am:

  • Ddyddiau braf yng ngwersyll Llangrannog yn 1969
  • Mwynhau cystadlu fel aelod o Gôr Ieuenctid Rhuthun yn 1982, ’83 ac ’84
  • Ffurfio Triawd Aelwyd Rhuthun (ddaeth wedyn yn Trisgell) i gystadlu ar y Gân Werin Fodern yn 1983
  • Y wefr yn 1990 o gael dwy o ‘nghaneuon fel darnau gosod am y tro cyntaf! (‘Gwin Beaujolais’ fel parti bechgyn ysgolion uwchradd, ac ‘Yfory’ fel côr aelwyd)
  • Y pleser eithriadol o hyfforddi fy mhlant fy hun i gystadlu yn yr Urdd rhwng 2002 a 2009, a’u gweld hwythau yn ymateb i’r her o ddysgu, cofio a pherfformio.
  • Bod yn rhan o fand y Jambori, dan arweiniad Dilwyn Price, a chael teithio o ysgol i ysgol am wythnos gyfan bob Hydref am flynyddoedd yn enw’r Urdd. Sôn am hwyl!
  • A chael sawl gwefr wrth feirniadu mewn eisteddfodau cylch, sir a cenedlaethol ers blynyddoedd.
  • Cyd-ysgrifennu cerddoriaeth y sioe gynradd Eiddo Cesar ar gyfer Eisteddfod 1992 hefo’r diweddar Eirian Williams, a gorfod gohirio’r unig berfformiad oherwydd storm enbyd o law ar y prynhawn dydd Iau, ond adolygiad yn ymddangos yn y Western Mail y bore wedyn yn canmol y sioe i’r cymylau. (Roedd yr adolygwr wedi gweld yr ymarfer ac yna wedi anfon ei bwt i mewn i’r papur heb wybod i’r noson gael ei gohirio!) Wrth lwc, llwyddwyd i lwyfannu’r sioe ar y prynhawn dydd Sul, a’r tywydd bryd hynny yn heulog braf!

Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd?

Cofio cystadlu yn y Genedlaethol yn Aberystwyth yn 1969 fel aelod o barti cerdd dant Adran/Ysgol Talysarn – ond chawson ni ddim llwyfan!

  • Hefyd cyfeilio i Gôr Adran Talysarn pan oeddwn i tua 13
  • Roedd 1983 ac 1984 yn flynyddoedd arbennig o dda i fi yn bersonol. Ennill Tlws y Cerddor (Y Fedal Gyfansoddi bryd hynny) yn ‘83 ac ‘84, Triawd Aelwyd Rhuthun (Trisgell), yn ennill y Gân Werin Fodern yn ‘83 ac ‘84. Pedwarawd Aelwyd Rhuthun yn ennill y 4awd, a’r 4awd Cerdd Dant yn ‘83. Triawd Aelwyd Rhuthun (Trisgell) yn ennill y 3awd/4awd Cerdd Dant yn ‘84. Arwain Côr Adran Clocaenog i’r 3ydd safle yn ’83. Derbyn Ysgoloriaeth Sims & Butler am y cystadleuydd mwyaf addawol yn 1983. Aelod o gôr buddugol Aelwyd Rhuthun yn ’83 ac ’84
  • Cyfansoddi’r gerddoriaeth i Irmenio, sioe gerdd Eisteddfod yr Urdd 1994 ar eiriau Ann Llwyd. Wedyn trefnu’r gân glo – Mae ddoe wedi mynd – i gôr pedwar llais, a chael y fraint o weld honno’n cael ei dewis fel y darn i gorau aelwydydd dan 25 yn Eisteddfod yr Urdd 2005.
  • Perfformio Plas Du (geiriau Hywel Gwynfryn) fel sioe uwchradd Eisteddfod yr Urdd 2006. Comisiwn Radio Cymru oedd hon yn wreiddiol, nôl yn 2002, ac fe ychwanegwyd 2 gân at y cynhyrchiad newydd i’r Urdd.

Beth, yn dy farn di, yw’r peth gorau am yr Urdd?

Y cyfleodd y mae’r Urdd yn ei roi i bobol ifanc, i gymdeithasu, i berthyn, i ddarganfod a datblygu sgiliau, i feithrin dawn, ac yn aml iawn, i ddewis gyrfa.

Beth mae bod yn Lywydd y Dydd ym mlwyddyn canmlwyddiant yr Urdd yn ei olygu i ti?

Mae’n anrhydedd o’r mwyaf, er ei fod o’n gwneud i mi deimlo’n hen eithriadol! Rwy hefyd yn falch ofnadwy o’r cyfle i gydnabod rhan yr Urdd yn fy natblygiad fel cyfansoddwr o ennill y Fedal Gyfansoddi i ysgrifennu sioeau cerdd ac i weld a chlywed fy nghaneuon yn ymddangos o flwyddyn i flwyddyn yn y rhestr testunau. Er fod o’n gwneud i mi deimlo’n hen eithriadol!

Ond hefyd yn falch ofnadwy o’r cyfle i gydnabod rhan yr Urdd yn fy natblygiad fel cyfansoddwr, o ennill y Fedal Gyfansoddi yn 1983 ac 1984, i ysgrifennu sioeau cerdd yn 1992 ac 1994, ac i weld a chlywed fy nghaneuon yn ymddangos o flwyddyn i flwyddyn yn y rhestr testunau.