Fe fydd hanesydd celf Peter Lord yn trafod hanes difyr a chymhleth darlun ‘Salem’ – o Sian Ty’n y Fawnog a’i chyd-gynulleidfa yn y capel bach gwledig ym mhentref Llanbedr – yng Ngŵyl y Gelli heno.

Mae’r sgwrs, ‘Vosper’s Salem’, ar y gweill ers i’r Llyfrgell Genedlaethol lwyddo i brynu ail fersiwn o ddarlun enwog Sydney Curnow Vosper ym mis Hydref 2019, ond cafodd ei gohirio’r ddwy flynedd diwethaf oherwydd Covid.

Bydd y darlun hwnnw, sydd ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol, i’w weld yn ystod y sesiwn yn y Gelli.

“Mae gwersi i’w dysgu wrth edrych ar Salem, a pha effaith gafodd delwedd o’r natur arbennig hwnnw,” meddai Peter Lord wrth golwg360.

“Roedd yn ceisio creu ryw ddelwedd o ryw Gymru wledig dawel, yn edrych yn ôl… y syniad o fyd Cymreig a oedd, hyd yn oed yn 1909, pan gafodd y llun ei arddangos, yn rhywbeth a oedd yn perthyn i’r gorffennol.

“Does yna ddim elfen o Gymru gyfoes, Cymru ddiwydiannol, yn y llun yma.

“Llun edrych yn ôl yw e, llun nad yw yn fygythiol o gwbl.

“Dyna sydd o ddiddordeb i fi – yr oblygiadau gwleidyddol o gael delwedd fel yna yn cynrychioli Cymru.”

Cynulleidfa’n anghyfarwydd â’r llun

Mi fydd Peter Lord yn ymwybodol y bydd rhan helaeth o’r gynulleidfa yng Ngŵyl y Gelli yn anghyfarwydd â’r llun.

“Os ca’ i gynulleidfa!” meddai.

“Dw i’n cystadlu yn yr un un slot â phobol enwog iawn ar y cyfryngau yn Lloegr.

“Dw i’n ymwybodol o natur y gynulleidfa ond mi fydda i yn egluro cyd-destun creu Salem, ac oblygiadau Salem a delweddau cenedlaethol eraill – fel merched mewn hetiau tal du a nifer o ystrydebau eraill o Gymru a Chymreictod – a thrio egluro pam mae Salem wedi cael yr effaith a’r dylanwad a gafodd e yng Nghymru yn yr 20fed ganrif.”

Mae’r sgwrs yn digwydd am 5.30pm heno (nos Fawrth, Mai 31) yng Ngŵyl y Gelli, y Gelli Gandryll ym Mhowys, sy’n dod i ben ddydd Sul, Mehefin 5.