Mae’r Urdd yn dweud mai “diogelwch ein teuluoedd sy’n ymweld â’r Eisteddfod yw ein blaenoriaeth”, yn dilyn problemau â seddi yn eu tri phafiliwn ar y diwrnod cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ddoe (dydd Llun, Mai 30).
Cafodd golwg360 wybod nad oedd modd i bobol fynd i mewn i’r Pafiliwn Gwyn yn ystod y bore cyntaf oherwydd diffyg lle, ac nad oedd hanner y seddi yn y pafiliwn hwnnw’n cael eu defnyddio.
Yn ôl stiward, fe gododd y broblem am nad oedd y seddi wedi cael eu trwyddedu.
Doedd y broblem ddim yn unigryw i’r Pafiliwn Gwyn chwaith, gyda hanner y seddi yn y Pafiliwn Gwyrdd hefyd allan o ddefnydd i’r cyhoedd.
Ymateb
“Mae’r Urdd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch ers dydd Gwener 27 Mai 2022 er mwyn sicrhau diogelwch seddau sydd ar oledd yn Eisteddfod yr Urdd,” meddai llefarydd ar ran yr Urdd.
“Ar hyn o bryd, nid oes modd defnyddio seddau sydd ar oledd yn ein tri phafiliwn hyd nes y clywir yn wahanol.
“Diogelwch ein teuluoedd sy’n ymweld â’r Eisteddfod yw ein blaenoriaeth.
“Fe fyddwn yn sicrhau fod yr holl gefnogwyr yn cael mwynhau’r cystadlu ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra sydd tu hwnt i’n rheolaeth.”