Bob blwyddyn, yn ystod Eisteddfod yr Urdd, mae Urdd Gobaith Cymru yn anrhydeddu pobol sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’r mudiad dros gyfnod o flynyddoedd.

Eleni, tro ardal Sir Ddinbych yw hi a chafodd chwech Llywydd Anrhydeddus eu hanrhydeddu mewn seremoni ar Lwyfan y Cyfrwy ddoe (dydd Llun, Mai 30), sef Beryl Lloyd Roberts, Ffion Davies, Leah Owen, Morfydd Jones, Menna Jones a’r diweddar Margaret Edwards.

Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “I blant a phobol ifanc Sir Ddinbych a thu hwnt, yn Gymry ac yn ddysgwyr, y chwech yma fu wynebau’r Urdd i bob pwrpas am ddegawdau,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.

“Maen nhw yn wir gymwynaswyr i’r mudiad ac mae hi’n fraint a phleser eu hanrhydeddu yn yr ŵyl eleni.”


Beryl Lloyd Roberts

“Yn enedigol o Gorwen, cefais fy magu ar aelwyd gerddorol gan fynychu ymarferion lleisiol a gwersi piano ers pan yn ifanc gyda chefnogaeth a chariad di-flino fy rhieni,” meddai Beryl Lloyd Roberts.

“Es ymlaen i astudio piano a llais yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd ac yna penderfynu gwneud cwrs ymarfer dysgu.

“Yn ystod y blynyddoedd yn y brifddinas, manteisiais ar bob cyfle i ddatblygu fy sgiliau cerddorol a chael profiadau gwerthfawr a chofiadwy wrth ganu gyda nifer o wahanol gorau, a mynychu gwahanol wyliau cerddorol, a’r profiadau hynod yma yn selio gwreiddiau cadarn imi fel arweinydd a chyfeilydd.

“Wedi cyfnod yn Lloegr ac yn Sir y Fflint, braf oedd cael dychwelyd adre fel Pennaeth yr Adran Gerdd yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun gan baratoi nifer fawr o bobol ifanc ar gyfer arholiadau ac fel hyfforddwraig corau a phartïon.

“Er fy mod erbyn hyn wedi ymddeol, mae fy nghyfraniad i fywyd cerddorol yn Nyffryn Clwyd yn ddi-dor.

“Mae Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn rhan annatod o’m magwraeth a chredaf yn gryf yng nghyfraniad yr eisteddfodau lleol fel meithrinfa ar gyfer yr eisteddfodau cenedlaethol.

“Braf yw gweld fod ffrwyth fy llafur wedi ysbrydoli llawer i fod yn athrawon, arweinwyr corau ac yn gantorion a chyfeilyddion proffesiynol.

“Mae wythnos yr Eisteddfod yn mynd i fod yn wythnos brysur a chyffrous. Mi fyddai’n gwisgo dwy het – Llywydd Anrhydeddus ac un o feirniaid yr adran gerdd.

“Diolch o galon am yr anrhydedd. Rydw i’n ei derbyn yn wylaidd iawn, gan ddymuno’r gorau i lwyddiant Eisteddfodau’r Urdd yn y dyfodol.”


Ffion Davies

“Ers fy mhlentyndod yn Nyffryn Conwy bu’r Urdd yn rhan ganolog o fy mywyd oherwydd imi gael fy annog gan fy rhieni, oedd yn gefnogwyr brwd o’r mudiad, i gystadlu’n gyson dros y blynyddoedd,” meddai Ffion Davies.

“Er na fûm yn ddigon ffodus i gyrraedd y Genedlaethol fel cystadleuydd rwyf wedi cael profi’r wefr o fod yn llwyddiannus ar y llwyfan mawr fel cefnogwr i fy mhlant, ac, erbyn hyn, fy wyrion.

“Yn ystod fy ngyrfa fel athrawes yn Llansannan a Phrestatyn rwyf wedi hyfforddi cenedlaethau o blant, yn arbennig felly ym maes Cerdd Dant, gan geisio eu cyflwyno i ddiwylliant amhrisiadwy Cymru.

“Ers rhai blynyddoedd rwyf yn beirniadu mewn eisteddfodau Cylch a Rhanbarth ac yn 2016 cefais yr anrhydedd o gael fy newis yn un o banel beirniaid Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint.

“Rwyf yn ei hystyried yn fraint fawr i gael fy enwebu yn un o Lywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Sir Ddinbych eleni.”


Leah Owen

“Yn wreiddiol o Ynys Môn, rwyf wedi byw yn Nyffryn Clwyd ers 40 mlynedd.

“Bûm yn athrawes yn Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych am 15 mlynedd, ac yna’n Athrawes Ymgynghorol y Gymraeg yn y sir.

“Pan yn ystyried ymddeol, gofynnwyd i mi fod yn rhan o dîm Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych, a bellach rwy’n rhoi gwersi llais a phiano yn Ysgolion y Sir.

“Bûm yn cystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd ers yn blentyn, ac wedi hyfforddi cannoedd o blant dros y blynyddoedd.

“Roeddwn i’n gyfrifol am gyfansoddi Sioe Gerdd Cynradd ‘Owain Glyndŵr’ gyda’m merch, Angharad Llwyd, pan fu’r Eisteddfod yma yn 2006.

“Am gyfnod, bûm yn hyfforddi Adran yr Urdd yn Ninbych a chafwyd cryn lwyddiant.

“Er i mi fod yn feirniad Cenedlaethol sawl tro, hyfforddi sydd orau gen i.

“Mae’n anrhydedd fawr i mi gael bod yn un o Lywyddion Anrhydeddus yr Eisteddfod eleni ac rwy’n ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth.”


Y chwiorydd Morfudd a Menna Jones

“Mae ein cysylltiad gyda Urdd Gobaith Cymru’n mynd yn ôl i’r 60au cynnar pan fyddem yn ymweld â Gwersyll yr Urdd Glan Llyn,” meddai’r chwiorydd Morfudd a Menna Jones.

“Mynd yn swogs i Langrannog wedyn am rai blynyddoedd.

“Mae’r cysylltiad wedi parhau hyd heddiw, gan ein bod wedi ymweld â phob Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd namyn un ers 52 o flynyddoedd.

“Mae mynychu Eisteddfodau Cylch a’r Sir yn rhan o’r Calendr Eisteddfodol.

“Hybu, hyfforddi a beirniadu dawnsio gwerin, fu’r patrwm i ni’n dwy ar hyd y blynyddoedd.

“Mae’n braf eto gweld yr Eisteddfod yn ymweld â Sir Ddinbych.

“Bu Menna’n ysgrifennydd y pwyllgor Gwaith y ddau dro diwethaf ac mae’n parhau ar Fwrdd yr Eisteddfod a’r Celfyddydau ac yn aelod o’r Cyngor.

“Y tro yma mae Morfudd yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Menna yn arweinydd a thrysorydd Pwyllgor Apel Ruthin.

“Mae cynnal a threfnu digwyddiadau codi arian bob amser yn foddhad.

“Mae cynnal a chefnogi’r ‘Pethe’ yn holl bwysig – y Capel, Merched y Wawr, y Gymdeithas Gymraeg, Papur Bro Y Bedol ac aml i gymdeithas arall yn yr ardal.

“Mae’n anrhydedd bod yn Llywyddion Anrhydeddus yr Wŷl, a byddwn yn mwynhau pob munud o’r Eisteddfod.”


Margaret Edwards – teyrnged gan ei theulu

“Magwyd mam a’i brawd Esmor ar aelwyd gerddorol y Brithdir, Betws Gwerfyl Goch – eu mam, Enid, yn dysgu plant yr ardal i ganu a’u tad, Dafydd a’i frawd Bil (tad Beryl Lloyd Roberts) yn ennill llawer mewn eisteddfodau ar ganu deuawdau Cerdd Dant i gyfeiliant eu chwaer Ceri (Hafod y Gân) ar y delyn.

“Mae’n debyg i mam gamu ar y llwyfan yn dair mlwydd oed ac ni fu stop ar y canu wedyn.

“Fe enillodd yr unawd contralto a’r unawd Cerdd Dant sawl tro yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu’n aelod blaenllaw o Lleisiau’r Alwen, Parti’r Brenig a Chôr Merched Edeyrnion.

“Bu’n canu deuawdau gyda Trebor Edwards, a hi oedd yn gyfrifol am eiriau ei gân adnabyddus, ‘Un dydd ar y tro’.

“Er gwaetha’r awydd i fynd i’r byd perfformio, merch ei bro oedd mam a dewisodd ddychwelyd adre wedi gorffen yn y coleg gan briodi dad (Ron) a setlo ym mro ei mebyd i fagu teulu.

“Treuliodd gyfnodau yn dysgu mewn ysgolion cyfagos cyn cael ei phenodi’n Bennaeth ar Ysgol Dinmael ym 1984.

“Hyfforddod ddwsinau o blant yr ardal i ganu, ac roedd ganddi’r ddawn arbennig o dynnu’r gorau allan o bawb. Ar ddiwedd yr 80au sefydlwyd Aelwyd Bro Gwerfyl o gnewyllyn o bobl ifanc brwdfrydig ei dosbarth ysgol Sul.

“Cafodd yr Aelwyd lwyddiant ysgubol gan ddod i’r brig yn Eisteddfodau’r Urdd dros gyfnod o dros 10 mlynedd – cyfnod hwyliog a byrlymus dros ben.

“Derbyniodd blât ‘Halen y Ddaear’ ar raglen Heno wedi i’r aelodau ei henwebu ac fe’i hanrhydeddwyd gyda Thlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled gan yr Urdd am ei chyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru yn 2001.

“Yn ogystal â hyfforddi plant y fro i ganu, fe fu’n gyfrifol am ein hyfforddi ninnau blant hefyd wrth gwrs, yn ogystal â’r wyrion a’r wyresau.

“Cyn mynd i unrhyw Eisteddfod rhaid oedd cael ‘polish gan nain’, a doedd hi ddim yn hawdd ei phlesio coeliwch ni.

“Roedd hi’n dipyn o berffeithydd, a doedd fiw i neb ganu ‘fel rhaff drwy dwll!’

“Er gwaetha’i phrysurdeb, roedd gan mam amser i bawb. Wel, doedd amser yn golygu dim iddi.

“Roedd wrth ei bodd yng nghwmni ieuenctid – dyna oedd yn ei chadw’n ifanc meddai hi!

“Os gweithiodd unrhyw un erioed dros ieuenctid ei bro, wel mam oedd honno ac roedd tymor Eisteddfodau’r Urdd yn uchafbwynt yn ei chalendr blynyddol.

“Er iddi ymddeol fel Pennaeth Ysgol Dinmael yn 2008, daliodd ati i ddysgu cerdd mewn ysgolion cynradd.

“Ymhyfrydai yn y ffaith fod plant Ysgol Carreg Emlyn wedi cael y profiad o ganu ar lwyfan Canolfan y Mileniwm yn ystod Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro, 2019 ac roedd yn edrych ymlaen yn arw at Eisteddfod Sir Dinbych, 2020.

“Chafodd mam mo’r fraint o gael gwybod iddi gael ei dewis yn un o Lywyddion Anrhydeddus yr Ŵyl hon cyn iddi’n gadael yn frawychus o sydyn ddiwedd 2019, ond gwyddwn y byddai wedi bod yn hynod falch o’r anrhydedd.

“Efallai nad yw hi yma ei hun i’w derbyn, ond mae ei henaid yma o hyd yn ogystal â’r waddol werthfawr a adawodd ar ei hôl.”