Shuchen Xie, sy’n 12 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 – a’r ieuengaf erioed i gipio Prif Wobr yn hanes yr Ŵyl.

Ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022, cafodd y tri phrif enillydd eu gwahodd i’r llwyfan ar gyfer y seremoni, er mwyn datgelu pwy oedd yn gyntaf, ail a thrydydd o flaen cynulleidfa fyw.

Mae’r datblygiad yma yn nhrefn y prif seremonïau wedi’i ysbrydoli gan lwyddiant Gŵyl ddigidol Eisteddfod T dros y ddwy flynedd diwethaf, ac mi fydd y drefn yn parhau ar gyfer holl brif seremonïau’r wythnos.

Mae Shuchen yn ennill teitl y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn ar gyfer pedwarawd llinynnol gyda’r teitl Rhapsody in G minor.

Roedd y beirniad Mared Emlyn wedi ei chalonogi’n fawr gyda safon y gystadleuaeth, gyda’r ensemble a gyflwynodd Shuchen o dan y ffugenw ‘Endurance’ yn “bleser i’w weld a’i glywed.”

Yr enillydd

Yn ddisgybl yng ngholeg St. John’s, Caerdydd mae Shuchen yn gerddor angerddol sy’n chwarae’r piano, sacsoffon a sielo.

Ers tair blynedd mae hi’n sy’n dilyn cwrs cyfansoddi Conservatoire Iau yng Ngholeg brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae cyfansoddi yn apelio’n fawr iddi a chyrhaeddodd rownd derfynol Cyfansoddwr Ifanc NCEM & BBC Radio 3 yn 2021 (sy’n gystadleuaeth ar gyfer rhai hyd at 18 oed) yn ogystal ag ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd yng Ngŵyl Cerddorion Ifanc Abertawe.

Mae Shuchen yn wyneb cyfarwydd i’r Urdd ac wedi perfformio lawer gwaith ar lwyfan y genedlaethol – bu iddi ennill cystadleuaeth cyfansoddi iau (Cynradd) Eisteddfod T 2021, ynghyd â’r unawd piano.

Yn y darn buddugol, mae hi’n archwilio gwahanol emosiynau trwy amrywio’r tempo ac yn defnyddio rhythmau’r Tango a’r Scherzo.

Y feirniadaeth

“Dwi wedi fy nghalonogi’n fawr gyda safon y gystadleuaeth eleni, ac roedd hi’n anodd iawn gwahanu gyda’r safon mor uchel,” meddai Mari Emlyn yn ei beirniadaeth.

“Ges i fy rhyfeddu gan allu’r cyfansoddwr buddugol i symud drwy gyweiriau, harmonïau ac amsernodau gwahanol mewn ffordd mor naturiol. Llongyfarchiadau mawr i bawb.”

Derbyniodd Shuchen y Fedal, sef Medal Goffa Grace Williams, wedi ei chreu gan y gemydd Rhiannon o Dregaron.

Cafodd y Fedal hon ei rhoi gan Gôr Rhuthun a chafodd y seremoni ei noddi gan Gyngor Sir Dinbych.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Gwydion Powel Rhys, Cylch Bangor Ogwen a Kai Edward Fish o Gwm Rhymni oedd yn drydydd.

Mae modd dod o hyd i holl ganlyniadau’r Ŵyl drwy ymweld â’r wefan s4c.cymru/urdd