Yn ferch ifanc leol o Ddinbych, mae Jade wedi gwneud dipyn o enw iddi hun fel un o fawrion byd y West End.

Yn actores, canwr a dawnswraig dalentog sy’n gallu troi ei llaw at sawl acen, mae’n cael ei hadnabod fel perfformwraig amryddawn.

Derbyniodd ei haddysg yn ysgol gynradd Twm o’r Nant ac Ysgol uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy.

Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, symudodd i Lundain i goleg Academi Urdang lle bu’n hyfforddi ac yn dilyn cwrs perfformio mewn sioeau cerdd. Yn ystod ei phlentyndod bu’n gystadleuwraig brwd yn Eisteddfodau’r Urdd.

Dros y blynyddoedd mae hi wedi perfformio mewn amryw o sioeau yn y West End, y Deyrnas Unedig a bellach dros y môr.

Derbyniodd ei rôl fawr gyntaf yng nghynhyrchiad llwyfan Les Miserables.

Aeth yn ei blaen i fod yn rhan o gast sawl sioe adnabyddus eraill, gan gynnwys Chitty Chitty Bang Bang, Sister Act a Phantom of the Opera.

Bydd hi’n ymgymryd â rôl Perdi yn y sioe newydd sbon 101 Dalmatians eleni.

Mae hi’n aelod o grŵp theatr Welsh of the West End ac yn perfformio’n gyson gyda’r criw. Yn ogystal ag actio, canu a pherfformio mae hi’n mwynhau marchogaeth.


Beth yw dy hoff atgof o’r Urdd?

Fy hoff atgof ydi’r Eisteddfodau, y profiad o ddysgu’r caneuon a dysgu gan y gorau, Leah Owen. Dwi’n cofio teimlo’n nerfus ar y dyddiau cystadlu. Ond dwi wedyn yn cofio’r teimlad anhygoel pan oeddwn i’n cyrraedd y llwyfan. Roedd rhain yn ddyddiau gwych i’r teulu i gyd.

Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd?

Roeddwn yn cystadlu bron pob blwyddyn, gyda Ysgol Twm o’r Nant ac Ysgol Glan Clwyd. Dwi’n cofio pan yn cystadlu yn ysgol Twm o’r Nant roeddem ni’n cael dewis top melyn neu biws, ac roeddwn i wastad yn dewis melyn achos dyma oedd fy ‘lucky charm’. Roeddem ni’n ennill lot! Mewn corau, deuawdau ac ar ben fy hyn. Ond yr un sy’n aros yn y cof ydi’r tro olaf nes i gystadlu ac ennill cystadleuaeth yr alaw werin.

Yw’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn dy fywyd proffesiynol?

Fyswn i byth yn lle ydw i rŵan heb Eisteddfod yr Urdd! Fe wnaeth y profiad o ganu o flaen miloedd o bobol roi gymaint o hyder i fi!

Disgrifia ardal Dinbych i bobl sydd erioed wedi ymweld o’r blaen.

Mae Dinbych yn un or llefydd mwyaf brydferth dwi erioed wedi ei weld yn fy marn i. Hollol wahanol i Llundain! Dwi’n prowd iawn mod i’n dod o’r dref.

Pa gystadleuaeth wyt ti’n fwynhau ei wylio fwyaf yn yr Eisteddfod?

Dwi’n mwynhau gwylio cystadleuaeth unawd y sioe gerdd a hefyd yr alaw werin. Mae o mor impressive y gallu sydd gan y rhai sy’n canu i gadw mewn tiwn.

Beth, yn dy farn di, yw’r peth gorau am yr Urdd?

Y peth gorau yw’r siawns mae’r mudiad yn ei roi i blant a phobl ifanc gael gwneud y pethau y maen nhw’n ei fwynhau. Mae llwyfan yr Eisteddfod yn rhoi’r cyfle iddyn nhw ddangos eu gwaith caled o’r misoedd cynt. Mae o hefyd yn neis gweld disgyblion o ysgolion gwahanol yn cymysgu gyda’u gilydd ac yn gwneud ffrindiau newydd.

Beth mae bod yn Lywydd y Dydd ym mlwyddyn canmlwyddiant yr Urdd yn ei olygu i ti?

Mae o’n anrhydedd mawr i fi cael bod yn lywydd y dydd! Mae o’n dangos y cylch cyfan o lle nes i gychwyn i lle ydw i heddiw. Dwi mor ddiolchgar i’r Urdd am ofyn i fi! Mae’n meddwl y byd.