Mae hen nain 92 oed sy’n gyn-athrawes ac yn hoff o gerddoriaeth, yn ceisio dod o hyd i bobol wnaeth gystadlu yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf erioed yn 1947.

Roedd Moira Humphreys yn aelod o Gôr Ieuenctid Coedpoeth a fu’n canu ar lwyfan yr ŵyl gyntaf un, a gafodd ei sefydlu i hybu heddwch yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Côr ieuenctid Coedpoeth yn y papur newydd yn 1947

Mae’r trefnwyr yn bwriadu cyflwyno medalau coffa iddi hi a’i chyd-gystadleuwyr o’r eisteddfod gyntaf hanesyddol honno er mwyn nodi 75 mlynedd ers y digwyddiad.

Yn 2020, bu’n rhaid canslo’r ŵyl boblogaidd, a fu’n gychwyn gyrfa i sêr opera fel Luciano Pavarotti a Syr Bryn Terfel, am yr unig dro ers ei sefydlu oherwydd y pandemig Covid-19.

Yn 2021, cafodd yr ŵyl ei chynnal yn rhithiol gyda pherfformiadau’n cael eu ffrydio ar-lein, ond eleni mae’r wledd o gerddoriaeth a dawns yn ôl yn y dref lle mae “Cymru’n croesawu’r byd”.

Mae’r ŵyl yn dechrau ar ddydd Iau, Gorffennaf 7 eleni, ac yn gorffen gyda Llanfest ar ddydd Sul, Gorffennaf 10, pan fydd yr eisteddfod yn ymuno â Gŵyl Ymylol Llangollen.

Yr arlwy

Yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod o hyd, bydd llu o atyniadau a gweithgareddau newydd ar y safle awyr agored ar ei newydd wedd, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns, sgyrsiau, comedi, bwyd, diod, siopa, gweithdai ac adloniant pop-yp.

Gyda’r nos, bydd cyngherddau yn cynnwys perfformiadau gan Aled Jones a Russell Watson, Anoushka Shankar, y chwaraewr sitar Prydeinig-Indiaidd-Americanaidd, a’r cynhyrchydd, cyfansoddwr ffilm ac actifydd sy’n hanner chwaer i’r gantores Norah Jones.

Bydd y cystadlu yn cyrraedd uchafbwynt ar y nos Sadwrn gyda chystadlaethau Côr y Byd a Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, gyda chantorion ifanc gorau’r byd yn ymgiprys am y wobr fawr.

‘Miwsig i glustiau Moira’

Roedd y newyddion bod yr Eisteddfod yn dychwelyd i’r safle yn Llangollen eleni yn fiwsig i glustiau Moira Humphreys o Goedpoeth ger Wrecsam, sydd ag atgofion byw o’r ŵyl gyntaf erioed.

Vocal Waves Maseru Lesotho yn 1995, a fu’n aros yng nghartref Moira Humphreys yng Nghoedpoeth

Merch yn ei harddegau oedd hi bryd hynny ond dros y saith degawd dilynol parhaodd Moira i fynychu’r Eisteddfod, gan ymuno â’r fyddin o wirfoddolwyr y tu ol i’r llenni a gweithio gyda’r tîm lletygarwch i ddod o hyd i lety lleol i gystadleuwyr tramor, ac yn fwy diweddar bu’n helpu i groesawu ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd y Maes.

Mae ganddi atgofion “anhygoel o amseroedd da” yn yr Eisteddfod ac mae wedi gweld llawer o newidiadau ers yr achlysur cyntaf hwnnw pan ganodd gyda Chôr Ieuenctid Coedpoeth, a dod yn drydydd yn y gystadleuaeth gorawl.

Bellach, mae ganddi ddwy ferch sydd yn oedolion, Helen a Mari, a nifer o wyrion a gor-wyres.

“Byddai’n braf gwybod bod yna hen gystadleuwyr fel fi dal allan yna. Mae’n syniad mor braf eu cydnabod ym mlwyddyn y dathliad yma,” meddai.

Mae’n falch hefyd iddi gael adnabod arloeswyr cynnar yr ŵyl gan gynnwys cadeirydd Côr Ieuenctid Coedpoeth, Harold Tudor, a gafodd y syniad o gynnal eisteddfod ryngwladol.

“Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yn 1947 ond roedd llawer o waith caled yn cael ei wneud yn y blynyddoedd yn arwain at hynny, pethau fel codi arian yn lleol a chynllunio a threfnu,” meddai.

“Ac mi wnaeth y cyfan gyfrannu at wneud yr Eisteddfod y llwyddiant a welwn ni heddiw.”

Unawdwyr a chorau yn y papur newydd yn 1948

Teithiodd perfformwyr o saith gwlad dramor i Langollen ar gyfer yr ŵyl agoriadol, gyda thua 27 o gorau o Gymru, Lloegr, a’r Alban.

Ddegawdau’n ddiweddarach mae mwy na 400,000 o gystadleuwyr o 140 o genhedloedd wedi perfformio ar y llwyfan byd enwog, tra bod rhai o berfformwyr amlycaf byd cerddoriaeth glasurol a phoblogaidd wedi serennu yng nghyngherddau amrywiol yr Eisteddfod.

Yn eu plith mae Placido Domingo, Kiri Te Kanawa, Yehudi Menuhin, Margot Fonteyn, Elaine Paige a Michael Ball – heb sôn am Bryn Terfel a Luciano Pavarotti a fu’n cystadlu ar lwyfan y pafiliwn enwog fel cantorion ifanc.

Mae gan Moira Humphreys gasgliad mawr o eitemau cofiadwy gan gynnwys rhaglenni o’r gorffennol a thoriadau papur newydd y mae’n edrych arnyn nhw yn aml i’w hatgoffa am eisteddfodau’r gorffennol.

Roedd hi wrth ei bodd o weld y diweddar Luciano Pavarotti, yr eicon opera, yn cerdded o amgylch maes yr eisteddfod yn hollol gartrefol pan ddychwelodd i’r ŵyl ar lannau’r Ddyfrdwy yn 1995, ac yntau’n seren ryngwladol erbyn hynny.

‘Hynod ddiolchgar’

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Moira am helpu ein hymdrechion i ddod o hyd i’r rhai fu’n cystadlu yn yr ŵyl gyntaf yn 1947,” meddai Camilla King, cynhyrchydd gweithredol Eisteddfod Llangollen.

“Yn amlwg, bydd eu niferoedd wedi lleihau dros y blynyddoedd ond, gan ein bod yn dathlu carreg filltir mor bwysig, hoffem ddathlu’r rhan allweddol a chwaraewyd ganddynt wrth greu hanes a chreu gobaith newydd ar adeg pan oedd y byd yn dal i ddioddef effeithiau’r rhyfel.

“Rydym yn teimlo ei bod yn bwysig anrhydeddu’r arloeswyr heddwch hyn a helpodd i osod y seiliau ar gyfer y trysor rhyngwladol hwn.

“Un peth sydd wedi aros yn ddigyfnewid yw’r ethos o gytgord a chyfeillgarwch a fu wrth galon yr eisteddfod gyntaf un, gyda’r nod o hybu heddwch a gwella clwyfau’r Ail Ryfel Byd.

“Mae ein hathroniaeth mor bwysig ag erioed o gofio’r rhyfel yn Wcráin a materion cythryblus eraill sy’n effeithio ar y byd heddiw.

“Dyna pam rydym wrth ein boddau i allu croesawu cystadleuwyr rhyngwladol yn ôl i Langollen fel y gallwn ddod â phobl ynghyd mewn ysbryd o gyfeillgarwch a harmoni ym mhob ystyr o’r gair.”

  • Os ydych chi yn nabod unrhyw un wnaeth gystadlu yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf erioed yn 1947, ebostiwch ceidiog@ceidiog.com neu ffoniwch 07958 497592.