Cafodd Cadair Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ei dadorchuddio yr wythnos ddiwethaf, a hithau wedi’i dylunio a’i chreu gan Rhodri Owen gan ddefnyddio peiriant laser yng nghanolfan Ffiws ym Mhorthmadog ar gyfer y gwaith engrafu.
Cafodd y Gadair ei chreu yng ngweithdy’r saer yn Ysbyty Ifan, ond aeth e â hi at Ffiws i’w gorffen gyda dyluniadau sy’n adlewyrchu’r ardal leol a’i phobol.
Gofod Gwneud cydweithredol yw Ffiws sy’n cael ei redeg gan Menter Môn dan faner Arloesi Gwynedd Wledig, gyda gwahanol offer a thechnoleg y gall pobol eu defnyddio i greu a thrwsio.
Dechreuodd y cynllun fel peilot mewn siop wag ym Mhorthmadog, ond bellach mae wyth safle ar draws Gwynedd a Môn.
“Roedd hi’n bleser cael Rhodri draw yn creu’r elfennau ar gyfer cadair hardd Eisteddfod yr Urdd eleni, ac mae gweld y campwaith mae o wedi ei greu gyda chymorth peiriannau Ffiws yn destun cryn falchder,” meddai Rhys Gwilym, y swyddog sydd yng ngofal Ffiws.
“Mae’r gofod ym Mhorthmadog fel y lleoliadau eraill, yn lefydd ble gall pobol ddod i greu a bod yn greadigol gan ddefnyddio offer arbenigol fel argraffwyr 3D, thorwyr finyl a laser.
“Rydyn ni hefyd yn annog ail-ddefnyddio ac ailgylchu gan geisio newid agweddau tuag at drwsio pethau sydd wedi torri.
“Y nod yw gwella sgiliau pobol a chynnig cyfle i ddefnyddio offer na fyddai ar gael iddynt fel arall.”
Gwaith Rhodri Owen
Roedd cael creu cadair ar gyfer Eisteddfod canmlwyddiant yr Urdd yn fraint, yn ôl Rhodri, ac roedd yn gyfle i gael bod yn greadigol wrth gynrychioli ardal yr Eisteddfod a’i phobol ifanc.
“Ro’n i am gofnodi canmlwyddiant yr Urdd mewn ffordd gynnil oedd yn berthnasol i’r ardal, felly defnyddiais y peiriant draw ym Mhorthmadog i sillafu Sir Ddinbych ar y ddwy ochr,” meddai.
“Defnyddiais y laser i greu’r siapiau hefyd i adlewyrchu bryniau Clwyd a’r marciau lliwgar sy’n dynodi ieuenctid bywiog yr ardal ar siapiau llif afon. Mae’n grêt bod gofod fel hyn ar gael i’r gymuned a hoffwn ddiolch i Wyn y technegydd am ei help gyda’r peiriant.”
Gwyliwch y fideo yma: https://www.facebook.com/ArloesiGwyneddWledig/videos/1255401294992329/