Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd gogledd Cymru yn Llywodraeth Cymru, wedi estyn “croeso cynnes” i Eisteddfod yr Urdd i Sir Ddinbych ar ddiwrnod cyntaf gŵyl y mudiad ieuenctid sy’n dathlu can mlynedd eleni.

Dyma’r Eisteddfod yr Urdd gyntaf i’w chynnal wyneb yn wyneb ers y pandemig Covid-19, ar ôl iddi gael ei chynnal yn rhithiol ar ffurf Eisteddfod T am ddwy flynedd.

Mae mynediad i Eisteddfod yr Urdd yn rhad ac am ddim eleni hefyd, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai cyllid ar gael at y diben hwnnw.

Eisteddfod yr Urdd yw’r ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop, ac ymunodd y Prif Weinidog Mark Drakeford â phobol ifanc yn Norwy yn gynharach yn y mis i hyrwyddo ei neges ryngwladol o heddwch ac ewyllys da.

‘Camp ryfeddol’

“Mae hon yn flwyddyn arbennig iawn i’r Urdd am sawl rheswm,” meddai Lesley Griffiths, fydd ar y Maes heddiw (dydd Llun, Mai 30).

“Mae’n dathlu’i chanmlwyddiant, sy’n gamp ryfeddol, ac mae pobol yn gallu dod ynghyd yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf ers dwy flynedd a mwy.

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig mynediad am ddim i’r digwyddiad eleni.

“Dyma gyfle inni ddangos ein gwerthfawrogiad o waith yr Urdd dros y ganrif ddiwethaf.

“Mae’r Urdd yn fudiad sy’n gweithio ar y llwyfan rhyngwladol ac mae’n cynnig croeso i bawb beth bynnag eu cefndir.

“Pa ffordd well o ddathlu hynny na chynnig mynediad am ddim i bawb?

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r Eisteddfod eleni ac rwy’n gwybod bod croeso cynnes iawn i’r ŵyl yn Sir Ddinbych ac ar draws y gogledd.”