Bydd rhaglen arbennig nos Fercher (Mehefin 1, 9.30yh) yn dathlu cyfraniad Eirys Edwards, gwraig Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd mudiad Urdd Gobaith Cymru.
A hithau’n gan mlynedd eleni ers ei sefydlu ac yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych, bydd Eirys: Mam yr Urdd yn holi pwy yn union oedd hi, a faint o ddylanwad gafodd hi ar y mudiad.
Bydd Mari Emlyn, eu hwyres, yn mynd trwy luniau, dogfennau a chlipiau archif i olrhain hanes ‘Nain Bryneithin’, Eirys Edwards, i ddarganfod mwy am ei dylanwad a’i hymrwymiad i’r Urdd.
“Mae storïau merched yn gyffredinol yn tueddu i fod yn dameidiog ac anghyson, pa mor aml y cyfeirir mewn llyfr hanes, os cyfeirir at y ferch o gwbl, fel gwraig neu ferch i ddyn o bwys…” meddai Mari Emlyn.
“Roedd nain yn wraig i Syr Ifan…ac os ydyn ni’n parhau i gyfeirio at ferched yn ôl eu perthynas at ddynion yn unig, yna, dydan ni ddim am gael y pictwr llawn.”
Yr archif
Mae Mari Emlyn wedi etifeddu llun gan Eirys Edwards o’i hen hen hen nain, Elisa Charles, ac yn mynd ag e at yr arbenigwr David Rogers Jones ym Mae Colwyn i ddarganfod mwy.
Dyma ddechrau ar ei gwaith ymchwil.
“Mi ddywedodd fy nain un tro, nad priodi dyn na’th hi, ond priodi mudiad…ond mae gan nain ei stori hefyd, ac mae’r stori honno yn cychwyn y tu allan i Gymru,” meddai Mari Emlyn yn y rhaglen.
Merch o Lerpwl oedd Eirys Edwards, ac yno mae siwrnai ei hwyres yn cychwyn, wrth chwilio am gartref ei nain, a chlywed mwy am hanes cymdeithas Gymraeg y ddinas a chapel Cymraeg Princes Road.
Er bod y teulu wedi chwarae lle amlwg yn yr hanes hwnnw, mae hi’n ceisio deall pam mai yn Saesneg yn unig y cafodd ei nain ei magu.
Pennod arall ddifyr ydy cyfnod Eirys Edwards yn fyfyrwraig yng Ngholeg Celf blaengar Lerpwl, coleg a roddai gyfleoedd cyfartal i ferched ac hyfforddiant iddi hithau a fyddai’n dwyn ffrwyth ac yn helpu’r Urdd mewn blynyddoedd i ddod.
Mae hanes cyfarfod cyntaf Eirys ac Ifan yn stori hynod, ac fe newidiodd y cyfarfyddiad hwnnw drywydd gweddill ei bywyd hi a bywyd ei gŵr.
“Faswn i ddim wedi ymroi i waith yr Urdd oni bai am ei dylanwad hi,” meddai Syr Ifan mewn clip archif.
“Fe wnaeth y gwaith ymchwil danlinellu i mi pa mor bwysig y bu ei chyfraniad hi i’r mudiad dan ni eleni yn dathlu ei ganfed penblwydd,” meddai Mari Emlyn.
Tybed a fyddem yn dathlu can mlwyddiant Urdd Gobaith Cymru eleni, oni bai am Eirys Edwards?