Bydd pob disgybl rhwng 3 ac 16 oed mewn ysgolion gwladol yng Nghymru yn derbyn eu llyfr eu hunain i’w gadw, ar ôl i Gyngor Llyfrau Cymru a Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg yn Llywodraeth Cymru, lansio’r rhaglen ‘Caru Darllen Ysgolion’ ddoe (dydd Iau, Mai 26).

Roedd disgyblion Ysgol Hamadryad yn Nhre-biwt yng Nghaerdydd ymhlith y cyntaf i dderbyn eu llyfrau newydd.

Daeth tua 70 o ddisgyblion ynghyd i ddathlu’r achlysur gyda’r awdur a’r darlunydd Huw Aaron mewn gweithdy arbennig i ddarganfod yr hwyl sydd i’w chael wrth ddarllen, a bod unrhyw beth yn bosibl mewn llyfrau.

Roedd Ysgol Hamadryad yn un o’r ysgolion ledled Cymru oedd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad i ddewis llyfrau yn ystod datblygiad y cynllun.

Cafodd yr ymweliad ei drefnu wrth i Gyngor Llyfrau Cymru lansio’u hymgyrch Caru Darllen Ysgolion i ddathlu darllen a’r budd a ddaw i ddarllenwyr o bob oed a gallu, gyda’r llyfrau am ddim yn dechrau cyrraedd yr ysgolion.

Daeth personoliaethau cyfarwydd megis y gyflwynwraig a’r awdur Mel Owen, a’r blogiwr Charlotte Harding (Welsh Mummy Blogs) draw i sôn am eu profiadau nhw o ddianc i mewn i fyd llyfrau, a’r rhan bwysig sydd gan lyfrau i’w chwarae yn eu bywydau a’u teuluoedd nhw eu hunain.

Ynghyd â’r artist Mace the Great a’r crëwr TikTok Ellis Lloyd Jones, maen nhw’n cefnogi’r ymgyrch trwy rannu eu cariad at ddarllen mewn ffilm fer ar gyfer y rhaglen Caru Darllen Ysgolion.

‘Mae straeon yn ehangu ein holl orwelion’

“Mae llyfrau’n gallu dy helpu i deimlo’n rhan o gymuned fyd-eang wrth agor dy feddwl i brofiadau falle dwyt ti ddim yn eu profi o ddydd i ddydd,” meddai Mel Owen.

“P’un a fyddwn ni’n darllen i ymlacio neu ddarllen i gael ysbrydoliaeth, mae straeon yn ehangu ein holl orwelion.”

Yn ôl Charlotte Harding, “i blant, mae cael mynediad at lyfrau a straeon yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’w lles, ac yn eu helpu i ddatblygu eu dychymyg”.

“Yn ystod y cyfnod clo, roedd fy mab yn cael cysur mawr mewn llyfrau,” meddai.

“Does dim byd gwell na dal llyfr go iawn yn eich dwylo, ac mae cymaint o ddewis ar gael – mae yna rywbeth i bawb.”

‘Sbarduno cariad gydol oes at ddarllen’

“Mae’n hyfryd bod yn Ysgol Hamadryad i weld y llyfrau’n cyrraedd fel rhan o’r rhaglen Caru Darllen Ysgolion, a’r plant yn gallu dewis eu llyfrau eu hunain,” meddai Jeremy Miles.

“Hoffwn ddiolch i bawb fu’n rhan o gyflawni’r prosiect uchelgeisiol hwn, sy’n ganlyniad i ymdrech anferth ar y cyd rhwng cyhoeddwyr, ysgolion, llyfrwerthwyr, Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Llyfrau.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld rhagor o lyfrau’n cael eu dosbarthu i ragor o blant dros y misoedd sydd i ddod.”

Yn ôl Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, mae Caru Darllen Ysgolion “yn ymwneud â sbarduno cariad gydol oes at ddarllen, a helpu pawb i ddod o hyd i’r llyfr iawn iddyn nhw”.

“Mae datblygu’r arfer o ddarllen yn rhoi manteision am oes, ac mae cael mynediad at lyfrau mor bwysig i blant a phobol ifanc,” meddai.

“Dyna pam y bydd cam olaf y rhaglen, yn nes ymlaen yn y flwyddyn, yn cyflenwi casgliad o tua 50 o lyfrau’n rhad ac am ddim i lyfrgelloedd ysgolion, fel bod modd i ddisgyblion barhau â’u taith ddarllen.”