Bydd Only Boys Aloud yn camu nôl ar lwyfan ar Faes Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf ers y pandemig – ac mae rheolwr y côr yn y gogledd wrthi’n sgowtio am aelodau newydd.

“Dyma ein perfformiad cyntaf ni, a dweud y gwir, allan yn yr agored,” meddai Eleri Watkins o Lanelwy, sy’n Rheolwr Prosiect Gogledd Only Boys Aloud.

Mae dros 200 o fechgyn rhwng 11 a 19 oed o 15 o gorau ledled Cymru bob wythnos yn rhan o Only Boys Aloud.

Eleri Watkins sy’n rheoli’r pedwar côr sydd wedi eu lleoli yn y gogledd – yn Llandudno, Caernarfon, y Rhyl, a Wrecsam.

“Mae yna ryw 50 o aelodau i gyd ac mae yna gorau bach yn dod at ei gilydd i ymarfer,” meddai.

“Rydan ni wedi bod yn ymarfer ar-lein drwy gydol y pandemig, ac mi wnaethon ni ddechrau yn ôl ym mis Medi.

“Felly dw i’n trio recriwtio eto ar gyfer corau newydd ar ôl dwy flynedd o beidio gallu mynd i recriwtio hogia sydd eisio canu.”

Cymysgedd o aelodau pedwar côr y gogledd a fydd yn ffurfio’r côr Only Boys Aloud ar y Maes yn Ninbych.

Cafodd Only Boys Aloud ei sefydlu yn 2010 i gymryd rhan mewn perfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy.

Ar ôl gorfod gohirio cyngherddau dathlu ei ddengmlwyddiant yn 2020 oherwydd Covid, mae’r côr am ddathlu ei ben-blwydd eleni.

Bydd Only Boys Aloud yn perfformio ar Lwyfan y Sgubor yn Eisteddfod yr Urdd am 2pm ddydd Mercher (Mehefin 1).

Mae Eleri Watkins yn gweithio hanner ei hamser i elusen Aloud, a’r hanner arall i’w chwmni ei hun, Gwasanaeth Cerdd Sir Ddinbych, sy’n trefnu sioeau ieuenctid.

Mae hi’n un o bedwar arweinydd corws Sioe Gynradd yr Eisteddfod eleni, Ni yw y Byd – a fydd yn digwydd ar Lwyfan y Sgubor am 7 o’r gloch nos Iau, Mehefin 2.