Celf a Chrefft Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 – blas ar y buddugol

Atodiad arbennig sy ’n cynnwys detholiad o’r gwaith creadigol sydd wedi dod i’r brig ym mhrifwyl yr Urdd eleni

gan Non Tudur ac Elin Owen

Llun buddugol Jamie Smart

Ffotograffiaeth Tomos Ayscough

Darlun Nel Thomas

Draig ar deilsen gan Ollie Phillips

Gwaith gweu Glesni Jones

Gwaith buddugol Seren Nixon

2D Blwyddyn 3 a 4 Elis Ashford, Ysgol Glanrafon

Tudalen Gomig gyda Chymeriad(au) Blwyddyn 7, 8 a 9 Gwenno Wigley, Ysgol Bro Hyddgen

Atodiad arbennig sy ’n cynnwys detholiad o’r gwaith creadigol sydd wedi dod i’r brig ym mhrifwyl yr Urdd eleni…

Ffesant ar frig y don

Jamie Smart, Aelod Unigol Cylch y Llannau, wnaeth ennill y gystadleuaeth ‘Ffotograff wedi’i addasu’ Blwyddyn 6 ac iau 

Jamie Smart o Bowys, gyda’i chamera

Mae gan Jamie Smart a’i theulu bob math o ieir yn crwydro eu tyddyn bach dwy acer ger Llanelwedd ym Mhowys. Ond ymwelydd gwyllt oedd y ffesant sydd i’w weld yn llun trawiadol a chrafog y ferch chwech oed. Fe fydd Jamie yn hoffi denu adar gwyllt i’r ardd gyda hadau a chnau – llwyddodd i dynnu llun hebog tramor yn ei gardd un tro.

Dywed ei bod wedi creu llun o ffesant yn syrffio am ei fod yn ddoniol. Daeth o hyd i’r llun cefndir ar y We ac yna, ar Photoshop, torrodd allan gorff y syrffiwr, a rhoi llun cywasgedig o’r ffesant yn ei le. “Syml!” meddai.

Fe hoffai Jamie Smart fod yn ffotograffydd pan fydd hi’n hŷn. “Ro’n i’n arfer hoffi deinosoriaid, a dw i wedi newid i adar,” meddai, “ac yna wnes i drio’r camera. Camera Dad, un drud iawn. Ar ôl hynny, byddai Dadi yn gofyn i fi, ‘y sbienddrych neu’r camera?’ Fel arfer bydden i’n dewis y sbienddrych. Yna mi ddois yn gryfach, a gallu dala’r camera’n well, felly’r camera dw i’n ei ddewis nawr.”

 

 

Llun buddugol Jamie Smart

Y dirywiad

Tomos Ayscough, Aelwyd Coleg Gŵyr Abertawe, sydd wedi ennill y gystadleuaeth ‘Ffotograffiaeth: Cyfres o luniau du a gwyn’ i rai dan 19 oed

Iechyd meddwl yw ffocws cyfres o bortreadau buddugol Tomos Ayscough, myfyriwr Lefel A sy’n astudio Ffotograffiaeth, Tecstilau a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Y fe’i hun sydd yn y pedwar llun.

“Mi wnes i droi’r goleuadau ymlaen, ac wedyn sefyll ar y llawr yn agos at y wal,” meddai’r myfyriwr 17 oed o Landeilo. “Dw i wedi symud y golau damaid bach gyda phob llun i greu cysgodion mwy. Wedyn, gyda phob llun, ro’n i’n rhoi tamed bach o golur ar fy wyneb, i wneud yr effaith bron fel bod y colur yn fy nghymryd i drosodd.”

Mae’r gyfres, meddai, yn cyfeirio at wewyr meddwl dyn, sy’n cael ei adlewyrchu yn y modd mae’r wisg a’r wedd yn mynd yn fwyfwy anniben â phob llun.

Ffotograffiaeth Tomos Ayscough

Creu pen o’i phen a’i phastwn ei hun

Nel Thomas, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Enillydd y gystadleuaeth Creu Celf ‘2-D’ o dan 19 oed

Darlun Nel Thomas

Cymeriad yn gwbl o’i dychymyg yw portread Nel Thomas, merch 16 oed o bentref Creigiau yng Nghaerdydd, ac mae cryn dipyn o waith wedi mynd mewn i’w greu.

“Yn gyntaf, wnes i astudio wynebau pobol hŷn gan edrych yn fanwl ar wead y croen a’r cysgodion oedd yn cael eu creu,” meddai gan ychwanegu fod llygaid trwm yr unigolyn yn dangos “person sydd ar goll yn ei feddyliau.”

Gyda’r unigolyn wedi’i greu yn ei phen, aeth Nel Thomas ati i greu amlinelliad o’r wyneb cyn adeiladu tôn y croen a’r cysgodion, gan ddefnyddio casgliad o bensiliau braslunio graffit a ‘stwmp blendio’.

“Wedyn mi wnes i adeiladu nodweddion y wyneb, y gwead a’r crychau gan ddefnyddio’r ‘stwmp blendio’ a rhwbiwr manwl,” meddai. “Wedyn mi es i ymlaen i ychwanegu’r gwallt i gwblhau’r darn.”

Mae Nel Thomas yn mwynhau celf yn fawr ac yn astudio TGAU yn y pwnc ar hyn o bryd. Y cam nesaf iddi yw dilyn Lefel A mewn Celf gan fod ganddi ddiddordeb mynd i weithio mewn Anthropoleg Fforensig sy’n cynnwys ail-greu wynebau.

Seren serameg

Ollie Phillips, Ysgol Llanfyllin, Enillydd y gystadleuaeth 2D Creadigol Blwyddyn 7, 8 a 9 Anghenion Dysgu Ychwanegol Dwys

Draig ar deilsen gan Ollie Phillips

Nid y gystadleuaeth 2D yn unig y mae Ollie Phillips o Ysgol Llanfyllin wedi llwyddo ynddi – mae e hefyd wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth 3D.

“Mae o wedi gwirioni yn derbyn y gwobrau,” meddai Arweinydd Anghenion Arbennig yr ysgol, Rhiannon Molyneux.

“Mae o’n awyddus iawn ac mae o wedi treulio oriau yn paratoi’r darnau.”

Ar gyfer ei ddarn 2D, fe aeth Ollie Phillips ati gyda’i gymhorthydd i ddefnyddio clai i greu teil fflat i gychwyn ac yna mowldio siâp y ddraig ar y deilsen. Ar ôl i’r teil sychu yn y ffwrnes, fe aeth ymlaen i’w hoff ddarn o’r broses, sef y paentio.

Buodd yr artist 12 oed hefyd yn brysur yn gwneud teilsen gyda dafad arni ac un gyda chennin pedr. Ond y ddraig oedd ei ffefryn gan ei fod yn teimlo mai hwnnw oedd yn cynrychioli Cymru orau. Daeth hefyd yn ail yn ei gystadleuaeth 3D, gyda dis meddal wedi’i orchuddio gyda’i hoff gymeriadau Disney.

Y môr ar y mur

Glesni Jones, Adran Dinas Mawddwy, ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth ‘Creu Tecstiliau’ dan 19 oed

Fe gychwynnodd Glesni Jones, sy’n 15 oed, ar y darn wedi’i weu dros ddwy flynedd yn ôl, gan obeithio ei orffen

Gwaith gweu Glesni Jones

erbyn yr Eisteddfod a oedd i fod digwydd yn 2020. Ond pan ddaeth Covid, penderfynodd Glesni roi’r darn o’r neilltu, gan ailgydio yn y gwaith eleni.

Ei cham cyntaf oedd dewis llun a hwnnw’n un oedd yn cyfuno môr a mynydd, sef y thema eleni. Gyda’i llun

yn barod, aeth ati i weu i fyny ym mhob cyfeiriad gan ddilyn patrwm, lliwiau a chysgodion ei llun.

“Dyma ydi’r tro cyntaf i fi wneud unrhyw beth efo gweu,” meddai.

“Doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth yr oeddwn yn ei wneud i gychwyn.

“Roedd o’n cymryd amser hir iawn i wneud ac felly gan ein bod ni’n gwybod bod yr Eisteddfod yn digwydd wyneb yn wyneb eleni, es i ati i orffen y dasg.”

Er nad yw hi’n yn astudio TGAU Celf, mae hi’n falch iawn o’r cyfleoedd mae hi’n eu cael i gystadlu gydag Adran Dinas Mawddwy.

 

Yr wyrth a’r wythdroed

Seren Nixon, Ysgol Gymunedol Pontrhydfendigaid, Enillydd y gystadleuaeth ‘Argraffu’ Blwyddyn 5 a 6

Gwaith buddugol Seren Nixon

Octopws, dafad a draig – dyna’r creaduriaid difyr sydd i’w gweld yng ngwaith argraffu lliwgar Seren Nixon, sydd â mynydd o dan y machlud yn ganolbwynt iddo.

Mae cryn dipyn odechneg wedi mynd i mewn i’r gwaith, ac mae’r argraffydd 10 oed yn falch iawn ohono.

“Mi gefais ddarn o gerdyn a thynnu lluniau o octopws glas yn y môr, draig goch, defaid a mynydd,” meddai.

“Es i wedyn dros hwnna gyda phaent ac wedyn defnyddio peiriant i’w drosglwyddo ar bapur.”

“Dawn ddisglair”– barn y beirniad

Mae nifer o feirniaid Celf a Chrefft yr Eisteddfod eleni yn hanu o ardal Dinbych. Yn eu plith mae Helen Edmunds, beirniad y cystadlaethau ‘Graffeg Gyfrifiadurol’ a ‘Ffotograff wedi ei addasu’, a chyd-feirniad y categori Ffotograffiaeth gyda Ceri Llwyd.

“Rhwng y cyfan, roedd yne gannoedd o luniau!” meddai’r dylunydd sy’n byw yn Rhuthun. “O ran niferoedd a oedd wedi cystadlu, a hefyd y safon, roedd o’n galonogol. Roedd yna feddwl mawr y tu ôl i’r gwaith.”

‘Môr a Mynydd’ oedd y thema i’r plant iau eleni, gyda’r thema yn agored i’r oedran uwchradd. “Ro’n i’n

rhyfeddu gyda’r safon,” meddai Helen.

“Roeddwn i jest yn edmygu rhai o’r gweithiau, yn enwedig o feddwl faint oedd oed y plant. Mae yna ddawn reit ddisglair yma o ran y gallu hefyd i ddefnyddio’r cyfrifiadur, a’r dechnoleg sydd y tu cefn i ddylunio, ac wedyn y syniad creadigol gwreiddiol yn dod ohono fo. Ro’n i’n meddwl bod y safon ar y cyfan yn uchel iawn.”

Lle teilwng i gelf

Ym marn Helen Edmunds, mae’r Urdd i’w ganmol am roi llwyfan teilwng i grefft, dylunio a thechnoleg – a hynny mewn pabell benodol ar y Maes eleni.

“Mae o’n dda bod yr Eisteddfod yn hybu’r ochr gelf a chrefft,” meddai, “oherwydd mae o’n dangos bod yr Urdd yn eang ei faes. Mae’r Urdd yn gwerthfawrogi’r ddawn greadigol sydd hefyd yn rhan o’r mudiad.

“Mae’r arddangosfa yn rhoi platfform i waith y plant a’r bobol ifanc sy’n cystadlu. Mae o’n binacl y gystadleuaeth. Mae hwnna i mi yn dangos gwerthfawrogiad yr Urdd tuag at yr Adran Celf a Chrefft.”