Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal diwrnod arbennig heddiw (dydd Mercher, Mehefin 1) i ddathlu llwyddiant busnesau ac elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg.

Ymhlith y busnesau sy’n cael cydnabyddiaeth heddiw mae Boots a Principality, gyda Mind Cymru a Macmillan Cymru ymysg yr elusennau sydd wedi cael eu cydnabod hefyd.

Mae cyfle heddiw i ddathlu’r diwrnod am y tro cyntaf ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych.

Cafodd cynllun y Cynnig Cymraeg ei ddatblygu gan Gomisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gwybod pa wasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddyn nhw.

Mae’r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth swyddogol gan y Comisiynydd, ac mae’n cael ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddfa’r Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol.

Ers i’r cynllun gael ei lansio ddwy flynedd yn ôl, mae 55 o fusnesau ac elusennau wedi cael cydnabyddiaeth, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn cydweithio â thros gant yn rhagor ar hyn o bryd.

Proses bositif iawn

Dywed Andy Francis, Rheolwr Boots yng Nghymru, fod y broses o gydweithio â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn un bositif iawn.

“Rydym yn gweld y Gymraeg fel sgil ddefnyddiol iawn i’r bobl sy’n gweithio yn Boots; ac mae’n arfer gennym i hysbysebu swyddi gwag yn ddwyieithog,” meddai.

“Rydym yn hynod falch fod llawer o’n fferyllwyr yn gallu siarad Cymraeg ac yn medru rhoi cyngor i gwsmeriaid yn eu dewis iaith.”

Un elusen fydd yn rhan o’r dathliadau ar y diwrnod fydd Clybiau Plant Cymru, y corff sy’n cynrychioli Clybiau Gofal Plant Allysgol yng Nghymru.

“Rydym wrth ein boddau fod swyddfa’r Comisiynydd yn cydnabod ein Cynnig Cymraeg,” meddai Jane O’Toole, prif weithredwr yr elusen.

“Mae ein haddewid yn golygu cynyddu’r cyfleoedd i rieni ddewis gofal plant cyfrwng Cymraeg a bod mwy o gyfleoedd i blant chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg – sy’n hollbwysig ar gyfer gwireddu’r weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg.”

‘Rhan annatod a naturiol o’n bywyd bob dydd’

Mae Esgobaeth Bangor yn un o’r elusennau eraill sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth i’w Cynnig Cymraeg – esgobaeth sy’n ymestyn o Ynys Môn i Bowys.

“Mae defnyddio’r Gymraeg yn rhan annatod a naturiol o’n bywyd bob dydd,” meddai’r Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru, Esgob Bangor.

“Mae’r cynllun wedi’n helpu ni i sicrhau fod pawb yn gallu cyfathrebu gyda ni ac addoli gyda ni yn eu dewis iaith, ac mae hyn yn ofnadwy o bwysig i ni.

“Byddwn yn annog unrhyw sefydliad i geisio am y Cynnig Cymraeg – mae’r broses wedi bod yn un hwylus gyda llawer o gefnogaeth barod ar gael gan swyddfa’r Comisiynydd.”

‘Codi ymwybyddiaeth’

“Mae cynnal diwrnod y Cynnig Cymraeg yn gyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau Cymraeg,” meddai Awel Trefor, Uwch Swyddog Hybu yn swyddfa’r Comisiynydd.

“Y nod yw gweld cynnydd mewn ymwybyddiaeth yn arwain at gynnydd mewn defnydd o wasanaethau Cymraeg.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu sefydliadau sydd wedi cwblhau eu Cynnig Cymraeg i dderbyn tystysgrif ar ein stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd.”

Mae mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg, ar gael yma.