Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Plaid Cymru o ddiffyg craffu ar Lywodraeth Lafur Cymru yn sgil y cytundeb cydweithio.

Yn ôl dadansoddiad y Ceidwadwyr Cymreig, ers dechrau’r trafodaethau am y cytundeb cydweithio, mae Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru wedi defnyddio llai na hanner y sesiynau holi yn y Senedd i holi Mark Drakeford am ei ddyletswyddau.

Maen nhw’n dadlau bod y dadansoddiad hwnnw’n codi amheuon am y galwadau am fwy o Aelodau yn y Senedd gan nad oes digon o aelodau i herio’r Llywodraeth, ac yn cyhuddo Plaid Cymru o “ddefnyddio’u safle breintiedig i feirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig a hyrwyddo platfform ar y cyd” gan nad oes ganddyn nhw’r hawl i’w drafod yn sesiynau Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Mewn 60% o’r sesiynau ers haf diwethaf, mae Adam Price wedi holi Mark Drakeford am y pwerau sydd wedi’u cadw gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, y cytundeb cydweithio neu ei farn am San Steffan, ond wedi methu â gofyn cwestiwn am feysydd datganoledig dair wythnos yn olynol.

Pan gafodd y cytundeb cydweithio ei gyhoeddi, fe ofynnodd Adam Price dri chwestiwn am ba mor dda yw’r cytundeb, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig, ac fe geisiodd Andrew RT Davies, yr arweinydd, eglurhad am y broses honno.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n poeni, felly, am ddiffyg cynrychiolaeth i etholwyr yng Nghymru.

‘Methiant llwyr i graffu’

“Mae Plaid Cymru wedi ildio pob honiad o fod yn wrthblaid yn y Senedd, yn gyntaf trwy eu cytundeb â Llafur – oedd yn cynnwys tro pedol ar reolau ffermio llymach a chefnu ar alwadau am ymchwiliad Covid i Gymru – ond drwy eu methiant llwyr i graffu ar y Prif Weinidog a’i Lywodraeth Lafur,” meddai Andrew RT Davies.

“Fe wnaethon ni fynegi ein pryderon pan gafodd y cytundeb Llafur-Plaid ei gyhoeddi y byddai’n arwain at y Blaid yn mwynhau buddion llywodraeth tra’n methu yn eu gwaith o fod yn wrthblaid, rhywbeth sydd wedi dod mor amlwg yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog fod y Llywydd wedi gorfod eu herio nhw.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn blaid Gymreig dros ben sy’n gwneud mwy i dynnu sylw at bolisi cyhoeddus gwael a chynnig atebion na neb arall, a dyna pam fod Llafur a Phlaid Cymru’n cofleidio er mwyn ymosod arnom ni mewn ymgais i guddio’u methiannau llwyr i lywodraethu a chraffu.

“Tra ein bod ni’n sefyll am atebolrwydd a llywodraethiant da, mae Llafur a’r Blaid yn ofn craffu gan ei bod yn haws gorfodi mwy o wleidyddion i mewn i Fae Caerdydd, rhoi’r bleidlais i garcharorion ac anwybyddu’r costau byw cynyddol wrth i chi ddod i gytundeb i gau’r wrthblaid i lawr.”