Mae’r Urdd wedi gorfod nôl rhagor o stoc o deganau meddal Mr Urdd – ar ôl i’r cyfan werthu ar y Maes ddydd Llun (Mai 30) a bore Mawrth (Mai 31).

Bu’n rhaid i’r mudiad alw ar stoc sbâr y gwersylloedd preswyl i ailgyflenwi Siop Mr Urdd yn y dderbynfa fore Mawrth.

“Roedden nhw wedi bod yn boblogaidd iawn ac wedi gwerthu lot yn fwy na’r disgwyl,” meddai Ceri Williams o adran gyfathrebu’r Urdd ddydd Mawrth.

“Roedden nhw’n rhai arbennig roedden ni wedi eu creu ar gyfer y canmlwyddiant.

Y cyflenwad newydd a ddaeth o’r gwersylloedd

“Roedd ganddon ni 3,000 mewn stoc mis Medi’r llynedd, ond maen nhw i gyd fwy neu lai wedi mynd. Rydan ni wedi gallu eu cael nhw ’nôl heddiw, ac mi fydd ganddon ni rywfaint fory.”

Mae’r plant wrth eu boddau efo’r cymeriad, meddai.

“Rydych chi’n gweld ar y Maes yr wythnos yma – cymaint o gyffro sydd yna.

“Mae Mistar Urdd yn cael ei fobio ym mhob man mae o’n mynd – mae plant yn gwirioni efo fo.

“Mae’r siâp sydd wedi ei greu, mae o’n edrych yn annwyl iawn, ac rydach chi’n gweld y plant yn cerdded o gwmpas y Maes efo Mistar Urdd a mynd ag o efo nhw i bobman.”

Sachau cefn a photeli

Mae’r poteli dŵr dur hefyd wedi bod yn “ofnadwy o boblogaidd” eleni, yn ôl Ceri Williams.

“Rydan ni’n meddwl efallai ei fod o oherwydd blwyddyn y canmlwyddiant,” meddai.

“Achos mae gyda ni logo’r 100 ar y poteli.

Sach gefn yr Urdd
Casi o Aelwyd Bro Alaw ym Môn yn gwisgo ei sach gefn Mistar Urdd

“Mae’r rhain i gyd yn amlwg ond yn mynd i fod ar gael eleni. Efallai mewn canrif y byddan nhw’n eitemau a fydd yn cael eu casglu gan bobol, felly mae’n neis gweld pobol yn bachu’r eitemau yma’r wythnos yma.”

Roedd nod neu sticer yn nodi’r canmlwyddiant ar ben ôl y teganau Mistar Urdd yn y stoc wreiddiol. Nid yw’r sticer hwnnw ar gefn y teganau meddal yn yr ail stoc a gyrhaeddodd fore Mercher.

“Os buoch chi mor ffodus â phrynu’r tegan ar ddechrau’r ŵyl, gyda nod y canmlwyddiant arno, cofiwch ei drysori.”

Mae golwg360 yn deall bod yr holl sachau cefn Mistar Urdd hefyd wedi gwerthu i gyd erbyn diwedd dydd Mawrth, a doedd dim cyflenwad newydd ar gael ddydd Mercher.