Nid edrych yn ôl ydy bwriad cyfrol newydd sy’n olrhain hanesion yr Urdd dros y ganrif ddiwethaf, ond edrych ymlaen.

Roedd Ifan ab Owen Edwards yn cyflwyno hanes i blant er mwyn iddyn nhw ddechrau cyfrannu at ddyfodol Cymru, a’r un yw bwriad llyfr newydd Myrddin ap Dafydd.

O edrych ar hanes y mudiad ers 1922, mae’n bosib cael darlun o ba gyfeiriad fydd y mudiad yn mynd iddo, meddai’r awdur.

Mae gwaddol canrif ers sefydlu’r mudiad yn amlwg mewn sawl maes, meddai Myrddin ap Dafydd, gan gynnwys eu gwaith yn poblogeiddio’r ddraig goch fel symbol o Gymreictod.

“Roedd yr Urdd yn ryw fath o archfarchnad dreigiau cochion yn y cyfnod pan oedd hi’n amhosib prynu draig goch yng Nghymru,” meddai Myrddin ap Dafydd wrth golwg360.

“Roedd yna ambell ddraig goch ar arwyddlun neu arfbais, ond ddim yn cael eu chwifio’n lliwgar fel rydyn ni’n gweld baneri cenedlaethol. Yr Urdd wnaeth hynny.

“Dw i’n meddwl, o edrych ar yr hanes rydyn ni’n cael darlun o ba gyfeiriad fyddan ni’n mynd iddo, a’r bobol ifanc fydd yn arwain drwy’r amser. Mae yna ryw hyder newydd ymysg pobol ifanc, mae’r awydd yma i ailbontio yn rhyngwladol, a dw i’n meddwl y bydd hwnna’n rywbeth y gwelwn ni’r Urdd yn rhan amlwg iawn ohono yn y dyfodol.

“Roedd hi’n hyfryd gweld y stori’n datblygu mewn sawl maes, a rhyfeddod hefyd. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli cymaint o ddylanwad mae’r Urdd wedi’i gael ar sefydliadau ac ar gymeriad y genedl.”

‘Y plant yn arwain’

Dechreuodd y gwaith drwy ddarllen Cymru’r Plant, gan mai hwnnw oedd offeryn Ifan ab Owen Edwards i gysylltu efo’r plant.

“Roedd hwnnw’n ddifyr, roedd o’n siarad efo’i gynulleidfa, efo’i aelodau drwy’r amser. Fe wnaeth o sefydlu Senedd yr Ifanc yn gynnar iawn, ac roedd o eisiau gwrando ar lais yr ifanc,” meddai Myrddin ap Dafydd.

“Roedd hwnna’n rywbeth chwyldroadol yng Nghymru’r 1920au a’r 1930au. Yn hytrach na bod yna oedolion yn dweud wrth yr ieuenctid be’ i’w wneud, roedd o’n gwrando ar y plant a’r plant oedd yn arwain i ryw raddau. Roedden nhw’n dylanwadu arno fo.

“Ddaeth hi’n Covid a’r llyfrgelloedd wedi cau, ac roedd yna gyfnod rhwystredig iawn. Ond chwarae teg, fe wnaethon ni sawl apêl ar raglenni fel Heno ac ar y radio, a fe gaethon ni ymateb.

“Roedd gan bobol amser i chwilota yn eu hatics ac ati, ac fe wnaeth pobol bostio ac e-bostio pethau atom ni.

“Mae yna hanesion yn hytrach na chronicl yn y gyfrol ac mae hynny, dw i’n meddwl, yn creu darlun o fudiad pwerus sydd wedi effeithio’n bersonol ar unigolion, a bod hynny yn mynd i ymestyn i’r ganrif nesaf.”

‘Hyder i sgrifennu’

Ymunodd Myrddin ap Dafydd â’r Urdd drwy adran yr ysgol i ddechrau, yna’r aelwyd, cyn mynd i’r gwersylloedd.

“Efallai mai yn fan yna wnes i ddod ar draws tafodieithoedd pob cwr o Gymru, roedd hynna cyn dyddiau’r cyfryngau Cymraeg – fawr ddim o Gymraeg ar y radio na’r teledu,” meddai wedyn.

“Roeddet ti’n dod ar draws tafodieithoedd, a dw i’n meddwl fy mod i wedi gweld Cymru gyfan am y tro cyntaf yn Llangrannog.”

Daeth y cyfleoedd ysgrifennu wedyn, gan ddechrau drwy ysgrifennu ar gyfer digwyddiadau fel Noson Lawen yng Nglan-llyn.

“Wedyn mynd ymlaen i gystadlu yn yr Urdd ac ennill Cadair yr Urdd, mae hwnna wedi rhoi ryw fath o hyder i mi wneud gyrfa o sgrifennu,” meddai.

Bydd Canrif yr Urdd: Hanesion a Cherrig Milltir wrth Ddathlu Canmlwyddiant yr Urdd allan ar Hydref 19 2022, ond mae posib ei rag-archebu nawr ar wefan yr Urdd.