Osian Wynn Davies o Lanfairpwll, Ynys Môn yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod yn hirach na chwarter awr.

Yn ôl y beirniaid, Llinos Gerallt a Siân Naiomi, daeth 12 ddrama fer i law, a’r gystadleuaeth yn “cadarnhau’n glir fod dyfodol y ddrama yng Nghymru yn ddiogel.”

Yn wreiddiol o Lanfairpwll, Ynys Môn mae Osian wedi byw yng Nghaerdydd ers iddo symud yno i astudio BA yn y Gymraeg yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Graddiodd yn 2019 ac mae’n gweithio fel cyfieithydd i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Mae’n ymddiddori mewn pêl-droed ac yn gefnogwr brwd o dîm Caerdydd a Chymru.

Dyma oedd ymgais gyntaf Osian ar ysgrifennu sgript a’r tro cyntaf iddo gystadlu yng nghystadleuaeth y fedal ddrama, ac mi fydd y gwaith buddugol ynghyd â’r feirniadaeth ar gael i’w darllen ar wefan Eisteddfod yr Urdd o brynhawn Gwener, Mehefin 3.

Bydd Osian yn treulio blwyddyn fel Dramodydd Preswyl Ifanc gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

Yn ogystal â derbyn mentora gan dîm Theatr Genedlaethol Cymru, bydd cyfle iddo gael ei fentora gan Gomisiynydd Drama S4C a gweithio gyda rhai o’u hawduron sgriptiau diweddaraf.

Y feirniadaeth

“Roedd nifer fawr o’r dramâu yn wreiddiol, yn ffres yn afaelgar ac yn deimladwy,” meddai Llinos Gerallt yn ei beirniadaeth.

“Byddem wedi bod yn fwy na hapus i wobrwyo’r tair drama ddaeth i’r brig.

“Dau ffrind yn eu harddegau yn cael sgwrs dros beint yw cymeriadau’r ddrama fuddugol ‘Un Bach Arall’.

“Mae’r hiwmor a’r tynnu croes yn clecian o’r cychwyn cyntaf a’r ddeialog yn llifo mor rhwydd.

“Mae’r is-destun yn siarad cyfrolau am frwydr fewnol un o’r cymeriadau ac mae ei ffawd yn ergyd bwerus.

“Dyma ddrama sy’n ymdrin yn gelfydd ag iechyd meddwl dynion ifanc, a phwysigrwydd siarad yn agored. Mae’n waith ffres ac egnïol.”

Derbyniodd Osian fedal arbennig wedi ei greu gan y gemydd Rhiannon o Dregaron.

Anrhydeddu enillydd blaenorol hefyd

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Erin Hughes o Ben Llŷn, a Lois Medi Wiliam o Gaernarfon oedd yn drydydd.

Bu i Erin Hughes ennill Coron Eisteddfod yr Urdd 2018, ond oherwydd salwch nid oedd modd iddi fod yn bresennol yn seremoni’r Coroni.

O ganlyniad, bu i’r Urdd gymryd y cyfle i’w hanrhydeddu heddiw mewn person fel Prif Lenor Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018.

Cafodd y wobr ei noddi gan Bapur Bro’r Bedol a’r seremoni gan Gyngor Tref Dinbych.

Bydd y tri buddugol yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd.

Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

Mae Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ar ei thrydydd niwrnod o ddarlledu ar ôl deuddydd cyntaf llwyddiannus dros ben.

Mae modd dod o hyd i holl ganlyniadau’r ŵyl hyd yma drwy ymweld â gwefan s4c.cymru/urdd