Fe fydd Eisteddfod yr Urdd yn parhau gydag arbrawf y tri phafiliwn coch, gwyn a gwyrdd ar y Maes o hyn ymlaen.

Penderfynodd yr Urdd beidio â chael rhagbrofion ar y Maes eleni, a chaniatáu i’r holl gystadleuwyr gael llwyfan ar faes yr Eisteddfod mewn tri phafiliwn.

Pryderon am sefyllfa ddiogelwch Covid-19 oedd yn rhannol gyfrifol am y penderfyniad hwnnw, er mwyn osgoi rhagor o gyswllt agos mewn rhagbrofion, ond mae’r arbrawf wedi bod yn un llwyddiannus, yn ôl Prif Weithredwr y mudiad.

Siân Lewis gyda Mr Urdd

“Rydan ni wedi clywed lleisiau’r bobol ifanc,” meddai Siân Lewis.

“Maen nhw wedi mynd drwy brofiad ysgol, cylch, rhanbarth… misoedd ymlaen llaw, miloedd yn cystadlu.

“Pan maen nhw’n cyrraedd y genedlaethol, ar ôl yr ymdrech i gyrraedd yma, mae’n bwysig i ni roi’r llwyfan a’r platfform haeddiannol iddyn nhw i gyd.

“Mae’n od i ni nawr feddwl bod ni ddim wedi meddwl am y syniad yma amser hir yn ôl. Oherwydd rydyn ni’n gwybod o’r adborth rydyn ni’n cael gan yr athrawon a’r rhieni hefyd bod yna falchder mawr.”

Felly mi fydd tri phafiliwn eto yn Sir Gâr yn 2023?

“Ac ein bod ni’n symud ymlaen i gyfnod newydd,” meddai Siân Lewis, gan gadarnhau parhad y tri phafiliwn.

“Roedd y rhagbrofion yn y degawd diwethaf yn digwydd ar y maes ta beth.

“Mae hi’n bwysig ein bod ni’n parhau i ddatblygu, a meddwl am syniadau newydd, lle byddwn ni’n gallu gwella’r profiad i bobol ifanc. Yn sicr, mae symud mewn i dri phafiliwn wedi dangos ei fod yn werth chweil a bydd yn rhywbeth rydyn ni am fynd i barhau i’w wneud.”