Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi caniatâd i berchnogion canolfan arddio Frongoch, ger Caernarfon, i ehangu, yn groes i gyngor swyddogion cynllunio.

Bu cynllunwyr y Cyngor yn ystyried cais llawn gan y ganolfan arddio.

Caniataodd yr aelodau i’r cais gan Frongoch i godi siop nwyddau sych (ar gyfer dodrefn gardd) ac ardal fanwerthu gyfagos i arddangos dodrefn yn ogystal ag estyniad i’r maes parcio.

Roedd aelodau’r pwyllgor wedi dadlau o blaid y datblygiad gan ddweud ei bod yn “angenrheidiol” i’r cyflogwr lleol ehangu.

Ond roedd swyddogion wedi argymell gwrthod y cynllun ar sail maint y datblygiad.

Roedd uned bioamrywiaeth y Cyngor hefyd wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch beth fyddai’n digwydd i wrychoedd hynafol ar y safle.

Mae yna hefyd ddwy goeden hynafol ar y safle ac un ar ffin y safle.

Yn ôl y Cynghorydd Cai Larsen “mae’n safle diddorol, gyda choed aeddfed ac amrywiaeth o wrychoedd hynafol.

“Ond mae’r ymgeisydd yn hyderus y gall eu cynnwys yn y datblygiad, heb effeithio arnynt.

“Mae gan y busnes bob rheswm i amddiffyn bioamrywiaeth, mae’n fanteisiol i’r busnes ddenu pobol i amgylchedd naturiol hardd.”

Aeth ymlaen i ddadlau bod “datblygiad sylweddol” yno eisoes.

Ychwanegodd: “Mae’r busnes yn ymwybodol iawn o Gymreictod yr ardal a’r bobol mae’n gwasanaethu, mae’r union fath o fusnes y dylen ni ei gefnogi.

“Rwy’n eich annog i fynd yn groes i argymhellion y swyddogion.”

‘Amodau cynllunio’

Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd, yn groes i argymhelliad y swyddogion, fe roddwyd caniatâd i godi siop nwyddau sych gydag ardal gwerthu manwerthu cyfagos, ac estyniad i faes parcio’r cwsmer yng Nghanolfan Arddio Fron Goch, Caernarfon.

“Bydd amodau cynllunio yn berthnasol i’r datblygiad.”