Mae adroddiadau y gallai Tywysog Cymru gael ei Arwisgo yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd, ac y bydd y seremoni yn cynnwys llawer llai o rwysg na seremoni ei dad, y Brenin Charles, yng Nghastell Caernarfon yn 1969.
William a Catherine yw Tywysog a Thywysoges newydd Cymru ar ôl i Charles esgyn i’r orsedd fel Brenin Lloegr yn dilyn marwolaeth ei fam, y Frenhines, yr wythnos ddiwethaf yn 96 oed.
Fel rhan o hynny, cyhoeddodd y brenin newydd fod ei fab hynaf, William, yn etifeddu’r teitl Dug Cernyw a’i fod yn ei benodi’n Dywysog Cymru ac mae lle i gredu y gallai gael ei Arwisgo’n ffurfiol y flwyddyn nesaf.
Daw hyn ar ôl i filoedd o bobol lofnodi deiseb yn galw am ddod â’r teitl i ben wrth i Charles adael y rôl.
Yn ôl y Telegraph, mae William yn ymwybodol o’r angen i barchu dymuniadau pobol Cymru ac felly mae lle i gredu y byddai unrhyw seremoni’n canolbwyntio ar Gymru ac nid arno fe fel unigolyn.
“Maen nhw wedi byw yng Nghymru ac wedi treulio llawer o amser yn dychwelyd i Gymru ac maen nhw eisiau sicrhau bod unrhyw beth maen nhw’n ei wneud yn unol â dymuniadau pobol Cymru,” meddai ffynhonnell.
Yn 1969, treuliodd Charles ddeg wythnos ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dysgu Cymraeg cyn y seremoni yng Nghaernarfon, ond does dim sôn ar hyn o bryd a fydd ei fab yn dilyn yn ôl ei droed yn hynny o beth.
Ond fe fyddai William wedi bod yn ymwybodol o’r Gymraeg pan oedd yn byw ym Môn gan weithio gyda thîm achub yr Awyrlu yn y Fali am dair blynedd, ac mae lle i gredu ei fod e wedi mynd ati i ddysgu rhywfaint o’r iaith a sut i ynganu Hen Wlad Fy Nhadau.
Ymweld â Chymru
Yn sgil eu cyfrifoldebau newydd, mae adroddiadau y bydd William a Catherine yn treulio mwy o amser yng Nghymru o hyn ymlaen ac mae disgwyl iddyn nhw drefnu eu hymweliad swyddogol cyntaf “yn fuan iawn”.
Wrth siarad â’r Prif Weinidog, mae’r tywysog newydd wedi mynegi ei hoffter o Gymru ac fe ddiolchodd i Mark Drakeford am ei deyrnged i’w fam-gu.
Dydy cynnwys sgyrsiau rhwng gwleidyddion a’r teulu brenhinol ddim fel arfer yn cael eu cyhoeddi, ond mae yna eithriad y tro hwn o ganlyniad i’r amgylchiadau unigryw, yn ôl y Telegraph.
Yn ôl Palas Kensington, fe fydd William a Catherine yn gwasanaethu pobol Cymru “â gwyleidd-dra a pharch mawr” ac “yn treulio’r misoedd a’r blynyddoedd i ddod yn dyfnhau eu perthynas â chymunedau ledled Cymru”.
Mae’r palas yn dweud eu bod nhw “eisiau chwarae eu rhan wrth gefnogi dyheadau pobol Cymru a thaflu goleuni ar yr heriau a’r cyfleoedd o’u blaenau”, a’u bod nhw hefyd “yn edrych ymlaen at ddathlu hanes a thraddodiadau balch Cymru yn ogystal â dyfodol sy’n llawn addewid”.
Mae disgwyl i’r brenin newydd ymweld â Chymru yn ystod yr wythnos sydd i ddod er mwyn mynd i wasanaeth coffa i’w fam, cynnal cyfarfodydd a chyfarfod â’r cyhoedd.
Y Llywydd yn agor teyrngedau’r Senedd i’r Frenhines Elizabeth II
William a Catherine yw Tywysog a Thywysoges newydd Cymru
Cannoedd yn arwyddo deiseb yn galw am ddod â theitl ‘Tywysog Cymru’ i ben
Does dim angen Tywysog ar Gymru, medd Dafydd Elis-Thomas