Mae Rhun ap Iorwerth yn gobeithio y bydd y berthynas sydd ganddo â phobol Ynys Môn yn ei helpu wrth geisio cael ei ethol i’w cynrychioli yn San Steffan.
Cafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad Môn yn 2013, ac mae’n Aelod o’r Senedd dros yr ynys ers newid enw’r sefydliad yn 2020.
Doedd penderfynu sefyll fel Aelod Seneddol yn hytrach nag Aelod o’r Senedd ddim yn rywbeth y gwnaeth ei gynllunio, meddai, ond daeth yn fwy a mwy amlwg iddo “bod rhaid” iddo drio.
“Mae hi’n allweddol bod llais Ynys Môn yn cael ei glywed a bod y ddadl dros Gymru yn cael ei chlywed ar bob lefel, a dw i’n meddwl bod rhaid i ni ym Mhlaid Cymru chwilio i ddefnyddio pob un platfform i wthio’r weledigaeth sydd gennym ni,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth golwg360.
“Os ydw i’n teimlo bod yna le tra bod ein Senedd ni yng Nghymru yn dal i dyfu a dal i gryfhau i ddefnyddio San Steffan i wthio’r dadleuon yna yn eu blaen, os oedd yna siawns fy mod i’n gallu ennill y sedd yna, roedd rhaid i fi wneud hynny.
“A dyna dw i’n ei wneud, a dw i’n gyffrous ac yn edrych ymlaen at allu bod yn llais i Ynys Môn yn fan hyn hefyd fel dw i wedi bod yn y Senedd dros y blynyddoedd.”
“Llais cryfach” mewn cyfnod o newid
Beth ydy gobeithion Rhun ap Iorwerth ar gyfer y sedd, felly, petai’n ei hennill?
“Be’ dw i eisiau gwneud yn siŵr ydy bod cynrychiolwyr yn Ynys Môn yn arddel y math o weledigaeth sydd gen i, a dw i’n meddwl sydd gan bobol Ynys Môn, ar gyfer yr ynys,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod bod gennym ni’n heriau. Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o’r heriau uniongyrchol yn cael eu delio â nhw drwy Senedd Cymru, ond mae’r cyd-destun yn un lle mae Llywodraeth a Senedd Prydain yn arwyddocaol o hyd.
“Mae’n rhaid i ni warchod Cymru a gwarchod Ynys Môn rhag y gyllideb ddiwethaf, er enghraifft, sy’n dangos gymaint mae Llywodraeth Prydain yn methu ag adnabod gwir anghenion ein cymunedau a’n pobol fwyaf difreintiedig. Mae’n rhaid i fi ddefnyddio’r cyfle.
“Ac wrth gwrs, dw i eisiau gweld Cymru annibynnol.
“Wrth i’r Deyrnas Unedig fynd drwy gyfnod o newid yn y blynyddoedd sydd i ddod, mae’n rhaid i Gymru gael llais cryfach a chryfach yn San Steffan hefyd.”
‘Sedd unigryw’
Ers dechrau’r mileniwm, mae tair gwahanol blaid wedi cynrychioli Ynys Môn yn San Steffan.
Dydy Plaid Cymru heb gynrychioli sedd Ynys Môn yn San Steffan ers 2001, pan gafodd y sedd ei chipio gan Lafur.
Y Ceidwadwr Virginia Crosbie sydd wedi cynrychioli’r ynys ers etholiad cyffredinol 2019.
A hithau’n dalcen caled i Blaid Cymru ers blynyddoedd, beth sydd angen i’r blaid ei wneud er mwyn ei hennill?
“Mae hi’n sedd unigryw wedi cael ei chynrychioli gan bedair plaid dros y blynyddoedd,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae’n lle arbennig iawn, wrth gwrs dw i’n biased a finnau’n hogyn o Sir Fôn.
“Ond maen nhw’n chwilio am arweiniad, a dw i’n gobeithio fy mod i wedi gallu dangos drwy’r ffordd dw i wedi cynrychioli’r ynys yn Senedd Cymru, drwy’r ymddiriedaeth dw i’n gobeithio dw i wedi’i hadeiladu fel Aelod o’r Senedd, y gallan nhw ymddiried ynof i hefyd i gael y gorau i Gymru yn y cyd-destun Prydeinig ac i sefyll fyny dros Ynys Môn a Chymru yn San Steffan.
“Dw i’n gobeithio y bydd y berthynas yma sydd gen i efo pobol Ynys Môn yn help yn hynny o beth.
“Rydyn ni’n gwybod hefyd, wrth gwrs, ei bod hi’n sedd lle mae’r bleidlais wedi cael ei rhannu dair ffordd.
“Aelod Seneddol Ynys Môn ydy’r aelod sydd â’r ganran isaf o’r bleidlais yn unrhyw etholaeth yng Nghymru.
“Rydyn ni’n gwybod be’ ydy’r peryg o weld y bleidlais wrth-Dorïaidd yn cael ei rhannu.
“Dw i angen dangos a phrofi i bobol Ynys Môn, fel dw i wedi trio gwneud erioed, fy mod i eisiau ac yn bwriadu cynrychioli pawb, ac y gall pobol ar draws ystod o ddaliadau gwleidyddol edrych tuag ata’ i i uno’r ynys tu ôl i’n hymgeisyddiaeth i, gobeithio.”