Mae awdurdodau lleol Cymru wedi cael gwahoddiad i wneud cais i adeiladu ysgolion “arloesol” newydd.
Dan Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, bydd un ysgol yn cael ei hadeiladu yn y de ac un arall yn y gogledd.
Bydd disgwyl i’r prosiectau fod yn arloesol a dangos eu bod nhw am gydweithio â chymunedau lleol, gan gynnwys disgyblion a theuluoedd, wrth gynllunio, gweithredu a’u rheoli.
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn darparu hyd at £15m yr un ar gyfer yr ysgolion, neu £30m i gyd, i dalu costau’r prosiectau.
Mae disgwyl i ddyluniad yr ysgolion wneud cyfraniad cadarnhaol i’r amgylchedd lleol a’r dirwedd gyfagos, gan gynnwys annog pobol i gerdded a beicio.
Bydd angen i’r cynlluniau fodloni ystod o feini prawf amgylcheddol, megis defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu neu ddeunyddiau naturiol, darparu lefelau uchel o olau dydd naturiol, a sicrhau defnydd isel o ynni a dŵr.
‘Glasbrint ar gyfer pob ysgol’
Dywed Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg Cymru, fod “ysgolion yn gwbl ganolog i’n cymunedau”.
“Mae’n rhaid inni fod yn uchelgeisiol yn y ffordd rydyn ni’n mynd ati i adeiladu ysgolion newydd, gan sicrhau bod eu dyluniad yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddysgwyr a staff, i gymunedau lleol ac i’r amgylchedd naturiol,” meddai.
“Bydd y prosiectau hyn yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer pob ysgol i’r dyfodol, fel y byddan nhw’n gydnaws â’r ardal o’u cwmpas, gan gryfhau ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio a diogelu’r amgylchedd.
“Mae dysgu am gynaliadwyedd yn orfodol yn ein cwricwlwm newydd i Gymru.
“Mae’r prosiectau hyn yn gyfle gwych i ysbrydoli dysgwyr a gwireddu nod y Cwricwlwm o ddatblygu dinasyddion egwyddorol, gwybodus.”
Bydd y prosiectau llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ddechrau 2023.