Mae gohebydd dan hyfforddiant gyda’r Telegraph wedi corddi’r dyfroedd yng Nghymru gydag erthygl sy’n honni bod arwyddion ffordd dwyieithog yn peryglu bywydau.

Cafodd Timothy Sigsworth ei hyfforddi gan The Sun a’r i cyn ymuno â’r Telegraph ddydd Llun (Medi 28), ac mae ei erthygl gyntaf yn dwyn y pennawd ‘Welsh names to be added to road signs despite warning of risk to lives’.

Mae’r erthygl yn ymdrin â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod arwyddion uniaith Saesneg, yn dilyn penderfyniad gan Cyngor Sir Fynwy, oedd yn dweud y gallai arwyddion dwyieithog arafu amserau ymateb ambiwlansys a drysu parafeddygon uniaith.

“Ond fe wnaeth Comisiynydd Iaith Gymraeg y weinyddiaeth ddatganoledig golbio’r Cyngor am anwybyddu’r rheolau sy’n mandadu arwyddion dwyieithog, er bod llai nag 20% o drigolion y sir yn siarad Cymraeg,” meddai’r gohebydd dan hyfforddiant.

Dywedodd Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg na all cynghorau “drin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na Saesneg”, er i adroddiad Cyngor Sir Fynwy ddadlau bod arwyddion uniaith Saesneg “yn fanteisiol o ran diogelwch i’r gwasanaethau brys”.

“Bydd yn lleihau’r siawns o ddryswch ynghylch enwau ffyrdd, yn enwedig lle mae gwahaniaeth sylweddol yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg,” meddai’r Cyngor.

“Bydd hyn o fudd arbennig i grwpiau megis y rheiny ag anableddau dysgu, dementia a nam ar eu golwg.”

Ac mae’r gohebydd dan hyfforddiant yn ategu bod y gwahaniaeth rhwng Monmouth a Threfynwy, Chepstow a Chas-gwent ac Abergavenny a’r Fenni “yn dangos y potensial am ddryswch”, gan ychwanegu “o ran cyfran y boblogaeth” mai “dim ond chwech allan o 23 o awdurdodau lleol Cymru sydd â llai o siaradwyr Cymraeg na Sir Fynwy”.

Ond mae’n cydnabod, serch hynny, fod nifer y siaradwyr Cymraeg yno wedi mwy na dyblu dros y degawd diwethaf, o 8,780 yn 2011 i 17,900.

Cefndir

Yn ôl Timothy Sigsworth wedyn, “mae’r weinyddiaeth Gymreig ddatganoledig yn cynnig cyrsiau dysgu ieithoedd ar-lein yn rhad ac am ddim sydd wedi’u teilwra’n arbennig i’r gwasanaethau brys”.

“Mae cyfranogwyr yn cael eu dysgu i adnabod y geiriau Cymraeg am nodweddion y wyneb a rhannau eraill o’r corff, a hefyd yn dysgu sut i gyflwyno’u henwau a theitlau eu swyddi,” meddai.

Mae’n egluro bod y gwasanaethau brys yn ymateb i alwadau 999 gan ddefnyddio’r National Land and Property Gazetteer, sef menter sy’n cysoni cyfeiriadau ac enwau strydoedd ledled gwledydd Prydain.

Defnyddio enwau nad ydyn nhw yn y Gazetteer fyddai’n achosi’r dryswch, yn ôl Cyngor Sir Fynwy, meddai.

Ond mae wedyn yn egluro mai cyngor y Comisiynydd Iaith yw defnyddio canllaw enwau lleoedd o 1967 ochr yn ochr â’r Gazetteer.

“Mae’n disgrifio’i rôl fel ‘codi ymwybyddiaeth o statws swyddogol yr iaith Gymraeg yng Nghymru a gosod safonau ar sefydliadau,” meddai.

“Bydd hyn, yn ei dro, yn arwain at sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg.”