Mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn adeilad Pontio ym Mhrifysgol Bangor heddiw (dydd Mercher, Medi 28) ac yfory (dydd Iau, Medi 29) er mwyn i sefydliadau cymdeithas sifil Sipsiwn, Roma a Theithwyr ddod ynghyd i rannu eu profiadau.

Byddan nhw’n ymuno ag academyddion, llunwyr polisïau ac aelodau o’r gymuned i glywed a thrafod profiadau’r gymuned yn Ewrop.

Fel rhan o’r digwyddiad, fe fydd arddangosfa sain/clywedol er mwyn tynnu sylw at rai o’r lleisiau sydd wedi cael eu recordio fel rhan o ymchwil y brifysgol.

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys prif areithiau, trafodaethau mewn grwpiau a gweithdai, ac yn myfyrio ar ddwy flynedd o ymchwil a ariannodd Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a archwiliodd Roma Tsiec a Groegaidd, a sefydliadau cymdeithas sifil Sipsiwn, Roma a Theithwyr y Deyrnas Unedig.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Dr Adrian Marsh o gwmni Romani, a’r Athro Margaret Greenfields fydd yn trafod adduned i oresgyn ffactorau sy’n rhwystro Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a phobol sy’n byw mewn cychod rhag cymryd rhan mewn Addysg Uwch.

Bydd amrywiaeth o fudiadau cymdeithas sifil Roma Ewropeaidd a llunwyr polisïau sydd â’r dasg o gefnogi cymunedau yng Nghymru mewn dwy drafodaeth mewn grwpiau.

Yn ogystal, bydd Dr Adrian Marsh yn arwain gweithdy sy’n cynnwys sefydliadau cymdeithas sifil Roma, Sipsiwn a Theithwyr o bob rhan o Ewrop, llunwyr polisïau ac academyddion.

Mae modd mynd i’r prif ddarlithoedd naill ai wyneb yn wyneb neu drwy ymuno â nhw drwy zoom.

Mae’r sefydliadau cymdeithas sifil sy’n cymryd rhan yn cynnwys Romodrom (Gweriniaeth Tsiec), Ymddiriedolaeth Community Renewal (Yr Alban), Cymdeithas Gwaith Cymdeithasol Sipsiwn, Roma a Theithwyr (Cymru), Teithio Ymlaen (Cymru), Canolfan St James (Lloegr) a Slovo 21 (Y Weriniaeth Tsiec).

Amserlen

Dydd Mercher, Medi 28, Pontio, PL2

1 o’r gloch: Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr WISERD

1.15-2.30yp: Prif Anerchiad gan Dr Adrian Marsh, ‘Sipsiwn, Roma, Teithwyr yn Ewrop fodern – o ‘Dir Sipsiwn’ i ‘Romanistan’

3-4yp: Trafodaeth Ford Gron – Safbwyntiau ynghylch profiadau Sipsiwn, Roma, Teithwyr yn Ewrop fodern o Gymdeithasau Sifil y Weriniaeth Tsiec a’r Deyrnas Unedig

4.10-5.15yp: Dangos rhaglen ddogfen ‘Kuschtepe Blues’

5.30yh: Derbyniad Gyda’r Nos

Dydd Iau, Medi 29, Pontio, PL2 a Wheldon, ystafell seminar 1-3

10-11yb: Prif Anerchiad gan Yr Athro Margaret Greenfields ‘Chwalu rhwystrau o ran cyfranogiad a chreu amgylchedd croesawgar ar gyfer Myfyrwyr Roma: yr Adduned Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a Phobl Cychod i Addysg Uwch, Pontio PL2 ac ar Zoom

11.10yb-12.30yp: Trafodaeth Ford Gron – Cefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – polisïau, arferion a rhwystrau, Wheldon 1

1.15yp-2.45yp: Gweithdy dan arweiniad Dr Adrian Marsh ar ‘Ymchwil Romani, Straeon Teithwyr – canllaw maes ymarferol yr academydd ar gyfer gweithio gyda chymunedau Sipsiwn, Roma, Teithwyr o ran ymchwil gyfoes ym maes y gwyddorau cymdeithasol, iechyd a dyniaethau’, Wheldon ystafell seminar 1-3

5.30yh – Dangosiad ffilm – LATCHO DROMA, Sinema Pontio