Mae 60% o drigolion cefn gwlad Cymru’n cytuno y dylai cymorth ariannol fod yn ddibynnol ar ffermwyr yn gweithredu i warchod natur a’r hinsawdd, yn ôl arolwg newydd.

Gyda’r Bil Amaethyddiaeth newydd yn cyrraedd y Senedd yr wythnos hon, mae arolwg gan WWF Cymru wedi canfod fod cefnogaeth tuag at newid y ffordd mae ffermwyr yn derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Dangosodd yr arolwg, a gafodd ei ateb gan 1,000 o drigolion cefn gwlad Cymru, fod 96% ohonyn nhw’n cytuno bod gan ffermwyr Cymru rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith o warchod natur.

Roedd 88% yn cytuno bod gan ffermwyr rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith o fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Yn ôl canfyddiadau’r arolwg, a gafodd ei chynnal gan gwmni ORS ar ran WWF Cymru, dim ond 34% oedd yn cytuno bod ffermwyr yn gwneud digon dros natur yn barod.

Mae’r mwyafrif, 60%, yn cytuno y dylai cymorth ariannol gan Lywodraeth fod yn ddibynnol ar ffermwyr yn gwneud addasiadau i warchod natur a’r hinsawdd.

Ar hyn o bryd, mae’r taliadau’n seiliedig ar arwynebedd y fferm.

‘Newidiadau beiddgar’

Mae elusen WWF Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Bil Amaethyddiaeth newydd yn cymell ffermwyr i fabwysiadu arferion ffermio sy’n ystyried natur a’r hinsawdd.

“Daw’r canlyniadau hyn ar adeg dyngedfennol i Gymru gyda’r Bil Amaethyddiaeth yn cyrraedd y Senedd,” meddai Rhian Brewster, Pennaeth Cyfathrebu WWF Cymru.

“Mae’r arolwg hwn yn dangos bod y rhan fwyaf o bobol ar draws cefn gwlad Cymru eisiau newid y ffordd mae ein system bwyd yn gweithio, o’r fferm i’r fforc.

“Rydym ni, ynghyd â chanran uchel o drigolion gogledd a gorllewin Cymru a’r canolbarth, yn cytuno y dylai cymorth ariannol gan Lywodraeth fod yn ddibynnol ar ffermwyr yn gwneud addasiadau i warchod natur a’r hinsawdd.

“Mae WWF Cymru’n credu bod angen inni gefnogi ffermwyr Cymru i fabwysiadu amaeth ecoleg, gan gynnwys ffermio adferol fel dull a fydd yn adeiladu dyfodol gwell i bobl, natur a’r hinsawdd.

“Ni ellir cyflawni’r trawsnewid hanfodol hwn ond trwy wneud newidiadau beiddgar i daliadau amaethyddol er mwyn cefnogi ffermwyr i wneud y newid hwn.

“Mae’r Bil Amaethyddiaeth newydd yn rhoi inni gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i osod Cymru ar lwybr at ddyfodol mwy cynaliadwy.”

Bil Amaethyddiaeth yn ‘foment garreg filltir’ i ffermio yng Nghymru, yn ôl NFU Cymru

“Am y tro cyntaf yn ein hanes, bydd y mesur hwn yn rhoi’r cyfle i Gymru weithredu ei pholisi bwyd a ffermio ei hun,” medd Aled Jones