Fe fydd gweddillion tua 64 o bobol frodorol yn dychwelyd o Awstria i Seland Newydd 77 o flynyddoedd ar ôl cytundeb rhwng y ddwy wlad.
Mae gweddillion pobol Māori a Moriori wedi’u cadw yn Amgueddfa Hanes Awstria yn Fienna, ar ôl i 49 allan o’r 64 o bobol gael eu dwyn gan y lleidr beddi Andreas Reischek, a dreuliodd ddeuddeg o flynyddoedd yn y carchar rhwng 1877 ac 1889.
Mae’r gweddillion, sy’n cynnwys penglogau, bellach yng ngofal awdurdodau Seland Newydd, ar ôl seremoni arbennig cyn iddyn nhw ddychwelyd i’r wlad.
Yn ôl dyddiaduron Andreas Reischek, roedd e’n ymfalchïo yn y ffaith ei fod e wedi gallu cuddio rhag yr awdurdodau Māori cyn mynd ati i ddwyn gweddillion pobol, lladrata o lefydd sanctaidd a gweithredu’n groes i draddodiadau brodorol.
Yn ôl credoau’r Māori, mae’r rhai sydd wedi marw dramor yn llefain dagrau o lawenydd wrth ddychwelyd i’w mamwlad.
Yn ôl awdurdodau Seland Newydd, mae gallu symud y gweddillion yn ôl i’r wlad yn gam arall wrth geisio gwneud yn iawn am hanes trefedigaethol, ac yn “bennod newydd” yn y berthynas rhwng Māori, Moriori a llywodraethau Seland Newydd ac Awstria.
Ar ôl i’r gweddillion ddychwelyd i Seland Newydd, fe fydd trafodaethau â disgynyddion y bobol er mwyn penderfynu ym mle fyddan nhw’n gorffwys yn derfynol.
Cafodd y rhan fwyaf o’r gweddillion eu dwyn o Rēkohu Wharekauri, Whanganui, Christchurch, Lyttelton, Tāmaki Makaurau, ac ardaloedd Te Tai Tokerau gan gynnwys Whangaroa a Taiharuru.
Mae disgwyl i arbenigwyr gynnal ymchwil er mwyn darganfod mwy am y bobol.