Wrth i 2020 dirwyn i ben, roedd un frawddeg yn fy mhlagio’n ddyddiol, sef:
“Fe’ch cymerir felly i fôr y Twyni a’ch taflu i mewn i bwll Carkoon, man nythu’r Sarlacc holl-bwerus … yn ei fol, fyddwch yn darganfod diffiniad newydd o boen a dioddefaint, wrth i chi gael eich treulio’n araf dros fil o flynyddoedd”.
(C3PO, Dychweliad y Jedi, 1983)
Roedd blwyddyn gyntaf y pandemig yn un heriol i bawb. Ond wrth i fusnesau ledled y byd, gan gynnwys clybiau pêl droed, straffaglu i ddelio hefo colledion ariannol, daeth cyhoeddiad gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wnaeth gynnig bach o obaith a difyrrwch. Roedd yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi ffurfio partneriaeth fusnes ac mi roedd yna drafodaethau ar y gweill iddyn nhw brynu’r clwb.
Fel sawl un, mae’n siŵr, fy ymateb cyntaf oedd anghrediniaeth – beth yn y byd…? Ac eto, doedd dim byd yn synnu fi erbyn hynny, a finnau wrthi’n ymadfer o bwl salwch meddwl wrth ddygymod hefo diwedd fy ngyrfa academaidd rai misoedd ynghynt. Yn wir, mi roeddwn wedi cymryd at ddychmygu pob dim trwy lens ffuglennol – felly roedd y Saga Hollywood-Wrecsamaidd yn ffitio’n dwt i’r meddylfryd hynny.
Cefais yr anrhydedd o fod yn ‘Fardd y Mis’ (Ionawr 2021), ac fel unrhyw fardd werth ei halen, plethais y newyddion cyfoes mewn i un o fy ngherddi (gweler tudalen 8 fy ‘Llyfr Lloffion’).
Cân actol broffwydol a chyfalafiaeth
Yn fwy swreal fyth, fues i mewn cân actol yn yr ysgol (tua 1988) o’r enw ‘Treffin’, sef stori am gwmni mawr yn dŵad i Wrecsam, yn moyn prynu’r clwb pêl droed. Yn y stori honno, roedd y gymuned leol yn erbyn y meddiannu, ac mi wnaethant weithredu er mwyn ‘Ennill y dydd’ (un o’r caneuon hyfryd dw i’n ei chofio). Ond tra gwahanol yw’r ymateb lleol i’r meddiannu hyn, gyda bwrlwm a llawenydd ynglŷn â phob manylyn.
Mae yna rai (fel arfer o’r tu hwnt i’r fro) sydd wedi lleisio amheuon ynglŷn â’r fenter, gan gyfeirio at y bwriad o greu rhaglen ddogfen fel ‘cyfalafiaeth noeth’. Ond mae’r ardal ôl-ddiwydiannol hon wedi gweld ei siâr o ‘gyfalafiaeth noeth’, siawns? Ac yn bersonol, rwy’n mwynhau gweld hanes diwydiant trwm Wrecsam yn cael ei bortreadu a’i barchu ar y rhaglen ddogfen.
Y ffeithiau a’r difyrrwch
Cafodd y pryniant ei gwblhau yn swyddogol fis Chwefror 2021. Ers hynny, rydym wedi dilyn anturiaethau’r ddau hoffus wrth iddynt ein difyrru hefo hysbyseb i Ifor Williams Trailers, arddangosiad arbennig o’r ffilm Free Guy, ac ymweliad yn y cnawd.
Mae Rob McElhenney wedi ennyn cryn sylw a pharch gan ei fod wrthi’n dysgu Cymraeg, ac mae’r rhaglen ddogfen wedi cael ymateb ffafriol. O’r mewnwelediad beunyddiol o reoli clwb pêl droed i’r portread sensitif o hanes y clwb a’r siwrne emosiynol gan rai o’r ffans, yn bersonol ni fyswn wedi gobeithio am well.
Roedd yn llwybr garw iddynt yn y cychwyn, er eu hymroddiad a’u buddsoddiad hael, ac mae’r rhaglen ddogfen wythnosol yn cyfleu’r dyddiau ansicr hyn. Ond tymor yn ddiweddarach, mae’r tîm wedi dechrau perfformio fel y disgwyliwyd yn wreiddiol – yn ail yn eu cynghrair ac mae’n ddyddiau cynnar eto.
Mae’r rhaglen ddogfen ei hun wedi bwydo’r llwyddiant. Mae sylw ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu’n sylweddol, wrth i Americanwyr wirioni hefo’r sioe; rwy’n aml yn eu gweld nhw’n holi ‘Lle caf brynu crys?’ cyn i lu o ffans Wrecsam ruthro’n llawen i bostio’r linc i’r siop ar-lein. Mae gwerthiant y siop wedi cynyddu o £59,674 y flwyddyn ddiwethaf i £360,000, sydd yn galonogol.
Ein cae chwith
Fodd bynnag, un o’r pethau sydd wedi fy nifyrru i fwyaf yw hyn. Mae’r stori am rywun yn ‘creu cae’ – a chae chwith yn unig yw hi yn y llyfr (Shoeless Joe, 1982) yn erbyn pob cyngor call – yn ennyn atgofion o’r ffilm Field of Dreams (1989). Fy hoff eiliad ynddi yw pan fo Terrence Mann (James Earl Jones) yn dweud (yn Saesneg, wrth gwrs):
“Bydd pobol yn dod Ray. Bydd pobol yn dod i Iowa am resymau na allan nhw hyd yn oed eu dirnad”.
Felly dychmygwch pa mor ddigri oedd hi yn ddiweddar i weld rhywun o Iowa ar Twitter yn dweud eu bod nhw’n bwriadu dod i Wrecsam i weld y Cae Ras! Ac yn gofyn hefyd am argymhellion gwestai a bwytai.
I gloi, y ffordd orau i ddechrau ffrae yn Wrecsam ar hyn o bryd yw trwy ddechrau trafod y busnes ‘Statws Dinas’. Ond y gwrthwyneb sydd yn wir am chwedl y Cae Ras ar y foment – daw gwên i wynebau’r rhan fwyaf o bobol. Mae’r ewfforia realaeth hudol yn parhau. O bydded iddi barhau!