Tarodd Chris Cooke a Shubman Gill bob o ganred i dîm criced Morgannwg ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Sussex yn Hove, wrth i’r sir Gymreig roi eu hunain mewn sefyllfa gref wrth gwrso dyrchafiad i’r Adran Gyntaf.

Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, roedd Sussex yn 88 am un pan ddaeth y chwarae i ben, a hynny ar ôl i Forgannwg gau eu batiad ar 533 am naw.

Sgoriodd yr Indiad Gill ei ganred cyntaf dros Forgannwg gyda sgôr o 119, tra bod Cooke wedi sgorio 141 wrth sgorio’i ddegfed canred dosbarth cyntaf.

Mae’n rhaid i Forgannwg ennill er mwyn codi uwchben Middlesex i gipio’r ail safle hollbwysig.

Diwedd batiad Morgannwg

Roedd Gill heb fod allan ar 91 ar ddechrau’r diwrnod, a doedd hi ddim yn hir cyn iddo fe sgorio’r naw rhediad oedd eu hangen arno fe i gyrraedd ei seithfed canred dosbarth cyntaf wrth daro tair ergyd am bedwar oddi ar y troellwr Jack Carson yn ei belawd gyntaf.

Ond ergydiodd Gill unwaith yn ormod ym mhelawd ganlynol Carson, wrth iddo fe gael ei ddal gan Sean Hunt wrth ergydio’n syth ar ochr y goes. Erbyn i’w fatiad ddod i ben, roedd e wedi wynebu 139 o belenni, gan daro 16 ergyd am bedwar a dwy ergyd am chwech.

Roedd Hunt, y bowliwr cyflym llaw chwith, eisoes wedi cipio wiced wrth fowlio Billy Root gyda iorcer, a chipiodd Carson ail wiced wrth i Andrew Salter gael ei ddal gan Ali Orr yn yr un safle â Gill.

Pan gafodd Sussex y bêl newydd, cafodd James Harris ei ddal gan y wicedwr oddi ar fowlio Currie am 34, ar ôl i Harris a Cooke ychwanegu 77 at y sgôr gyda phartneriaeth allweddol.

Ychwanegodd Cooke a Timm van der Gugten 41 am yr wythfed wiced cyn i’r Iseldirwr gael ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Faheem Ashraf oddi ar fowlio Tom Clark.

Wrth lygadu’r posibilrwydd o gau eu batiad ar ôl te, sgoriodd Cooke ac Ajaz Patel 96 mewn 13 o belawdau, gyda Patel o Seland Newydd yn taro 51 oddi ar 37 o belenni, gan gynnwys tair ergyd am chwech a dwy ohonyn nhw mewn pelawd oddi ar fowlio Carson.

Cafodd Cooke ei ddal gan y wicedwr Oli Carter oddi ar fowlio Hunt i ddod â’i fatiad i ben ar ôl sgorio’i ail ganred y tymor hwn, ac erbyn iddo fe ddychwelyd i’r pafiliwn, roedd e wedi wynebu 165 o belenni, gan daro 14 pedwar a dau chwech.

Gyda Sussex eisoes dan bwysau ar ôl i Charlie Tear a Fynn Hudson-Prentice dynnu’n ôl o’r tîm oherwydd salwch dros nos, aeth pethau o ddrwg i waeth wrth i’r Saeson ildio 50 o ychwanegiadau.

Batiad cyntaf Sussex

Roedd angen 384 o rediadau ar Sussex er mwyn osgoi canlyn ymlaen, ac fe ddechreuon nhw’n gadarn wrth i Ali Orr a’r capten Tom Haines ymosod ar fowlio gwael James Harris a Michael Hogan.

Ychwanegon nhw 69 mewn 11.2 o belawdau cyn i Orr gael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Hogan am 45.

Roedd Haines a Tom Alsop wrth y llain ar ddiwedd y chwarae ond mae Morgannwg yn closio at eu buddugoliaeth gyntaf yn Hove ers 1975 – a fyddan nhw’n gallu dibynnu ar Swydd Gaerwrangon i atal Middlesex sy’n gwestiwn arall ar hyn o bryd.

“Fe wnaeth Shubman Gill osod y llwyfan i ni, mae e o safon hollol wahanol ac mae ganddo fe ddyfodol enfawr o’i flaen e,” meddai Chris Cooke.

“Dw i wedi darganfod rhywfaint o gysondeb yn y gemau diwethaf, ac mae’n braf gallu gorffen y tymor gyda chanred a chyfrannu at yr hyn sy’n gêm bwysig i ni.

“Mae’n braf cael y cyfanswm mawr hwnnw ar y bwrdd, a gobeithio nawr na fydd ond rhaid i ni fatio unwaith.

“Y cyfan allwn ni ei wneud yw ennill yma ac fe wnawn ni boeni am y gemau eraill wedyn.”

 

Shubman Gill

Y glaw yn rhwystro dechrau da Morgannwg yn Hove

Mae’r sir Gymreig yn 221 am dair ar ôl dim ond 41.2 o belawdau ar y diwrnod cyntaf yn erbyn Sussex

Gêm enfawr i Forgannwg ar lan y môr yn Hove

Mae’r sir Gymreig yn mynd am ddyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth yng ngêm ola’r tymor yn erbyn Sussex