Roedd nodi rhan Cymru yng Nghwpan y Byd gyda Jambori yn gyfle rhy dda i’r iaith i’w golli, yn ôl yr Urdd.

Bydd Jambori Cwpan y Byd yn cael ei gynnal er mwyn nodi blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd a bod tîm pêl-droed Cymru ar eu ffordd i Qatar.

Ychydig oriau ers y lansiad, mae 150 o ysgolion cynradd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Ond y gobaith,  yw y bydd pob ysgol gynradd yng Nghymru yn ymuno â’r canu ar Dachwedd 10, er bod hwnnw’n “darged anferthol”, meddai Lydia Jones, Rheolwr Canmlwyddiant yr Urdd.

Bydd Dafydd Iwan yn ymuno â’r Jambori, a bydd hen ffefrynnau a chaneuon newydd yn cael eu canu yn ystod y digwyddiad Zoom byw.

“O ran blwyddyn y canmlwyddiant, roedd yr Urdd yn bwriadu cynnal Jambori ond wrth gwrs fe wnaeth tîm Cymru fynd ati i ennill ei lle yng Nghwpan y Byd ac roedd rhaid ail-feddwl,” meddai Lydia Jones wrth golwg360.

“Roedden ni moyn gwneud rhywbeth allai dynnu cymaint o blant ysgol at ei gilydd, rhywbeth fyddai’n cefnogi ein tîm ni ac iddyn nhw wybod ein bod ni tu cefn iddyn nhw.

“Fe wnaethon ni bartneru gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chael cefnogaeth Llywodraeth Cymru felly fe wnaethon ni greu Jambori Cwpan y Byd.

“Mae yna gymaint o wahanol lefelau iddo fe, mae’n ddiddiwedd. Mae’n beth neis cael ysgolion at ei gilydd, plant sy’n dysgu Cymraeg, plant sydd ddim yn siarad Cymraeg – mae hwnna’n lyfli.

“Mae cerddoriaeth yn rywbeth mor hawdd i dynnu pobol at ei gilydd.

“Ond mae’r ffaith bod cymaint o bobol yn caru pêl-droed a charu tîm Cymru, ti’n tynnu hwnna i gyd at ei gilydd ac mae e’n gyfle mor dda ar gyfer yr iaith i beidio ei golli.”

Bydd Dafydd Iwan yn ymuno â’r Jambori, a bydd hen ffefrynnau a chaneuon newydd yn cael eu canu yn ystod y digwyddiad Zoom byw.

“Fydd pawb yng Nghymru moyn gofyn i Dafydd Iwan fod yn rhan o be’ bynnag fyddan nhw’n wneud, ac mae e wedi dweud ie yn syth,” meddai wedyn.

“Mae beth mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n ei wneud a beth mae’r Urdd yn ei wneud o ran cael pawb at ei gilydd yn bwysig… ond cael cyd-ganu â Dafydd Iwan, mae hynny reit cŵl, ‘dydy!”

‘Chwarter miliwn o blant’

Lansio’r Jambori yn Ysgol Glan Morfa yng Nghaerdydd

Mae Jambori yn cael ei gynhyrchu gan yr Urdd mewn partneriaeth â S4C, BBC Cymru, S4C a Stwnsh Sadwrn, ITV Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Cafodd y digwyddiad ei lansio yn Ysgol Glan Morfa yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mawrth, Medi 27) yng nghwmni Owain Williams, un o gyflwynwyr Stwnsh Sadwrn, a Mistar Urdd, a nhw oedd yr ysgol gyntaf i gofrestru.

Mae e-byst a chardiau post wedi cael eu gyrru at bob ysgol, ac er mwyn sicrhau bod y Jambori yn hygyrch i bawb, mae yna eiriau Saesneg ar gyfer pob cân, yn ogystal â fersiynau ffonetig ar gyfer dysgwyr a phobol ddi-Gymraeg.

“Wrth gwrs, rydyn ni’n anelu am holl ysgolion cynradd Cymru ond rydyn ni’n gwybod bod hwnnw’n darged anferthol,” meddai Lydia Jones.

“Ond, mae e’n ddigwyddiad am ddim, mae e’n sbort, mae’r Llywodraeth tu cefn iddo fe ac rydyn ni’n credu efallai y gallwn ni gyrraedd ein targed ni o chwarter miliwn o blant.”

Bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio ar Facebook Live a YouTube hefyd, ond mae’r Urdd yn gofyn i ysgolion cynradd gofrestru cyn gynted â phosib a bod yn rhan o’r digwyddiad mawr.

 

Yr Urdd yn lansio Jambori Cwpan y Byd

Bydd Jambori Cwpan y Byd yn cael ei gynnal yn rhithiol ar y 10fed o Dachwedd, gan estyn croeso i blant o bob cwr o Gymru a thu hwnt i ymuno yn yr hwyl