Mae’r Urdd yn trefnu digwyddiad arbennig, Jambori Cwpan y Byd, i nodi blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd a bod tîm pêl-droed Cymru ar eu ffordd i gystadleuaeth Cwpan y Byd.

Heddiw (dydd Mawrth, Medi 27), mae’r Urdd yn lansio gwefan Jambori Cwpan y Byd, gan annog ysgolion cynradd i gofrestru a bod yn rhan o’r digwyddiad mawr.

Bydd Jambori Cwpan y Byd yn cael ei gynnal yn rhithiol ar Dachwedd 10, gan estyn croeso i blant o bob cwr o Gymru a thu hwnt i ymuno yn yr hwyl.

Yn dilyn y llwyddiant ym mis Ionawr, pan gafodd Record y Byd Guinness ei thorri gyda thros 95,000 o blant ysgol yn bresennol yn eu parti pen-blwydd, mae’r Urdd wedi dewis fformat tebyg o gofrestru i ddod i ddigwyddiad Zoom byw.

Mae Jambori yn cael ei gynhyrchu gan yr Urdd mewn partneriaeth â S4C, BBC Cymru, S4C a Stwnsh Sadwrn, ITV Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal ag annog pawb i ymarfer y caneuon ar gyfer y Jambori, mae’r Urdd yn gofyn i ysgolion ganiatáu i bawb wisgo coch mewn ymgais i droi’r wlad yn goch i gefnogi’r ffaith fod Cymru yn mynd i Gwpan y Byd.

Mae cofrestru ar gyfer y Jambori yn golygu cael eich cynnwys ar fap o Gymru, ac mae manylion cofrestru, Cwestiynau Cyffredin a’r holl ganeuon ar gael i’w lawrlwytho ar wefan y Jambori www.urdd.cymru/Jambori.

‘Gorau Canu Cydganu’

“Roedden ni wastad wedi meddwl am gael Jambori canmlwyddiant yn yr hydref, gan ein bod ni eisiau dod â phlant ysgolion Cymru at ei gilydd ar gyfer digwyddiad hwyliog a chynhwysol,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Ond gyda Chymru’n cyrraedd Rownd Derfynol Cwpan y Byd, roedd rhaid i ni gefnogi’r tîm a rhoi hwb haeddiannol iddyn nhw gan holl blant ysgolion cynradd y wlad.

“Mae’n hanfodol bwysig bod yr Urdd yn gwneud ei hunan yn hygyrch nid yn unig i blant sy’n siarad Cymraeg ond i bob plentyn ysgol yn y wlad, a gan taw ni yw gwlad y gân, pa ffordd well o ddod â phawb at ei gilydd na thrwy fiwsig a’n Jamboris enwog.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod mai arwyddair y Gymdeithas Bêl-droed yw Gorau Chwarae Cyd-Chwarae, felly beth am Gorau Canu Cydganu ar gyfer y Jambori!”

‘Mae’r tîm cenedlaethol yn haeddu’r hwb fwya allwn ni roi iddyn nhw’

Bydd y Jambori hefyd yn cynnwys negeseuon arbennig gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, a chwaraewyr tîm Cymru, yn ogystal ag un o arwyr y genedl, Dafydd Iwan, yn canu Yma o Hyd yn fyw i’r degau o filoedd o blant ysgol.

“Rhaid i ni beidio diystyru’r effaith mae’r Urdd wedi’i chael ar iaith a diwylliant Cymru,” meddai Dafydd Iwan.

“Fe sefydlwyd y mudiad gan mlynedd yn ôl ac un o’i brif bwrpasau oedd diogelu’r iaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a gyda mymryn o gefnogaeth gan ambell un fel fi yn y 70au, S4C yn yr 80au a nawr Llywodraeth Cymru yn yr 21ain ganrif, mae wedi llwyddo, ac ry’n ni Yma o Hyd!

“Mae clywed dysgwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg yn canu Yma o Hyd gyda’r fath angerdd yn dangos grym diwylliant a cherddoriaeth, mae hefyd yn dangos grym pêl-droed a’r potensial sydd ganddo i gael effaith gadarnhaol.

“Felly, diolch i’r Gymdeithas Bêl-droed a’r Urdd am wneud i’r Jambori Cwpan y Byd ddigwydd, am greu digwyddiad i’r genhedlaeth nesaf gael cydganu yn Gymraeg efo’i gilydd.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael cymaint o ysgolion, Cymraeg a Saesneg, yn canu efo fi ar 10 Tachwedd, achos mae’r tîm cenedlaethol yn haeddu’r hwb fwya allwn ni roi iddyn nhw!”

Bydd caneuon y Jambori yn cynnwys rhai o’r hen ffefrynnau fel ‘Aderyn Melyn’ yn ogystal â dwy gân Cwpan y Byd newydd sbon sydd wedi’u cyfansoddi’n arbennig ar gyfer yr achlysur gan un o’n prif gyfansoddwyr, y gantores adnabyddus Caryl Parry Jones.

Er mwyn sicrhau bod y Jambori yn hwyl ac yn hygyrch i bawb, mae yna eiriau Saesneg ar gyfer pob cân yn ogystal â fersiynau ffonetig ar gyfer dysgwyr a’r di-Gymraeg fel ei gilydd, gyda’r nod y bydd pawb yn canu wyth cân yn Gymraeg ar y diwrnod.

Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn ‘ddiolchgar iawn’ i’r Urdd

“Mae’r hyn mae’r Urdd yn ei wneud i ennyn diddordeb ac annog pobl ifanc drwy chwaraeon a diwylliant yn glodwiw iawn ac fe fyddai’n braf gweld ei efelychu ledled y byd,” meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn bartner iddyn nhw ar gyfer Jambori Cwpan y Byd.

“Yn ogystal â’n gwaith gyda phêl-droed plant llawr gwlad a Chyngor Ieuenctid y Gymdeithas Bêl-droed, rydyn ni’n mawr obeithio gwneud mwy gyda’r Urdd yn y dyfodol.

“Does dim dwywaith amdani: Gorau Chwarae Cyd-Chwarae.

“Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn ddiolchgar iawn i’r Urdd ac i blant ysgol Cymru am roi cystal hwb i’r tîm, diolch yn fawr i chi!”