Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n arwain “gŵyl o greadigrwydd a diwylliant fydd yn uno cymunedau” i gyd-fynd â Chwpan y Byd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu sawl menter fydd yn derbyn arian er mwyn hybu a dathlu Cymru yn y bencampwriaeth yn Qatar fis Tachwedd.

Y nod yw rhannu ein diwylliant, celfyddydau a’n treftadaeth, cefnogi mentrau fydd yn helpu i ddatblygu’r economi, codi proffil Cymru a’r iaith, a hyrwyddo Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang.

Ymysg y 19 prosiect fydd yn elwa ar £1.8m gan Lywodraeth Cymru mae cyngerdd yng Ngogledd America i dynnu sylw at ddiwylliant Cymru cyn i dîm Rob Page herio’r Unol Daleithiau, ac Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru yn Wrecsam, a fydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddogfennu profiadau cefnogwyr y tîm.

Bydd menter ‘Ysbrydoli Cenhedlaeth’ sy’n cyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau i glybiau pêl-droed merched a bechgyn dros Gymru yn derbyn arian hefyd.

Fe fydd arian yn mynd tuag at gael band y Barry Horns yn Qatar, a bydd y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo drwy sesiynau canu cymunedol.

Ynghyd â hynny, bydd y Mentrau Iaith yn comisiynu murluniau gan artistiaid o Gymru, yn cynnal cystadlaethau dylunio hetiau bwced ac yn cynhyrchu crysau retro anferth i gefnogwyr eu hyrwyddo a’u hanfon i Qatar i’w harddangos yng ngwersyll hyfforddi Cymru yn Doha.

‘Mynd â Chymru i’r byd’

Gyda chynulleidfa fyd-eang o bum biliwn o bobol, mae Cwpan y Byd yn “cynnig llwyfan i fynd â Chymru i’r byd”, yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ystod uchelgeisiol a chyffrous o weithgareddau i wneud yn fawr o’r cyfle unigryw a gynigir gan dîm pêl-droed dynion Cymru’n cymryd rhan yng Nghwpan y Byd FIFA,” meddai.

“Dyma’r cyfle mwyaf arwyddocaol o ran marchnata a diplomyddiaeth chwaraeon a gyflwynwyd erioed i Lywodraeth Cymru o ystyried proffil y digwyddiad.

“Byddwn yn hyrwyddo Cymru, gan rannu ein gwerthoedd o gynwysoldeb ac amrywiaeth, sicrhau diogelwch pobl Cymru yn y twrnamaint, a sicrhau etifeddiaeth bositif a pharhaol o’n cyfranogiad yn y twrnamaint.

“Mae’n hanfodol ein bod yn creu gwaddol o Gwpan y Byd sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fechgyn a merched ac yn tynnu sylw at sut y gall cymryd rhan mewn chwaraeon wella iechyd a lles ein cenedl.

“Rydym yn benderfynol o elwa ar y llwyddiant hanesyddol hwn a sicrhau buddion gwirioneddol i bobl yma yng Nghymru.”