Mae gan dîm criced Morgannwg gêm enfawr yn Ail Adran y Bencampwriaeth wrth i’r tymor ddod i derfyn yr wythnos hon.

Taith i Hove sydd gan y sir Gymreig i herio Sussex, gyda’u gobeithion o godi i’r Adran Gyntaf yn y fantol.

Maen nhw’n dal yn y ras ar ôl curo Swydd Derby yr wythnos ddiwethaf, ond maen nhw’n drydydd ar 200 o bwyntiau, tra bod gan Middlesex 209 o bwyntiau yn yr ail safle, a Swydd Nottingham 218 o bwyntiau ar frig y tabl.

Gêm yng Nghaerwrangon sydd gan Middlesex, a bydd Morgannwg yn sicr yn gobeithio am fuddugoliaeth i’r tîm cartref yn y gêm honno.

Er mor annhebygol, gallai colledion sylweddol i Swydd Nottingham a Middlesex olygu bod Morgannwg yn ennill yr Ail Adran yn ogystal â’r dyrchafiad, gyda 24 o bwyntiau ar gael yn y gêm olaf hon.

Hon fydd gêm olaf Michael Hogan, y bowliwr cyflym sy’n ymddeol yr wythnos hon ar ôl degawd gyda’r sir.

Mae’r capten David Lloyd hefyd yn llygadu 1,000 o rediadau am y tro cyntaf erioed, gyda’i 313 heb fod allan yn erbyn Swydd Derby yn ei adael e ar 843, y nifer fwyaf erioed iddo mewn un tymor.

Gemau’r gorffennol

Yn y gêm gyfatebol yng Nghaerdydd yn gynharach y tymor hwn, roedd Morgannwg yn fuddugol o bum wiced wrth i Eddie Byrom a Colin Ingram adeiladu partneriaeth swmpus o 328 am yr ail wiced.

Ond stori wahanol iawn fu ymweliadau niferus Morgannwg â Hove dros y blynyddoedd diwethaf, ac maen nhw heb fuddugoliaeth yno yn y Bencampwriaeth ers 1975.

Yn eu gêm ddiwethaf yno yn 2018, cawson nhw eu bowlio allan am 88 ac 85 wrth i’r ornest ddirwyn i ben ar yr ail ddiwrnod.

Roedd eu perfformiad dipyn gwell yn 2019, gyda Marnus Labuschagne (182) a Nick Selman yn adeiladu partneriaeth o 291 am yr ail wiced, sy’n record am y wiced honno i’r sir, gyda’r gêm yn gorffen yn gyfartal.

Gêm gyfartal gawson nhw yn 2021 ar ôl i’r cyn-gapten Ben Brown sgorio canred i Sussex ar y bore olaf cyn i Forgannwg orfod cwrso 275 mewn 51 pelawd.

Er bod Morgannwg yn fuddugol eleni ac yn Llandrillo yn Rhos yn 2000, dydyn nhw ddim wedi ennill ar y cae ar arfordir de-ddwyrain Lloegr ers 1975, pan darodd Roger Davis ganred yn eu batiad cyntaf, cyn i John Solanky gipio pedair wiced a Tony Cordle dair wiced wrth i’r sir Gymreig ennill o 96 o rediadau.

Mewn 39 o gemau yn y Bencampwriaeth yn Hove, dim ond pum gwaith maen nhw wedi ennill – o 47 rhediad yn 1952, o 117 o rediadau yn 1964, o 64 rhediad yn 1965 ac o bedair wiced yn 1966.

Carfan Sussex: T Alsop, Faheem Ashraf, J Carson, O Carter, T Clark, J Coles, B Currie, T Haines (capten), F Hudson-Prentice, S Hunt, D Ibrahim, A Orr, C Tear

Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), T Bevan, E Byrom, K Carlson, C Cooke, S Gill, A Gorvin, J Harris, M Hogan, S Northeast, A Patel, B Root, A Salter, T van der Gugten

Sgorfwrdd: https://www.espncricinfo.com/series/county-championship-division-two-2022-1310355/sussex-vs-glamorgan-1297787/live-cricket-score