Gydag ychydig dros wythnos cyn gemau pêl-droed ail gyfle Cwpan y Byd y Merched yn erbyn Bosnia a Herzegovina, mae’r capten Sophie Ingle wedi ysgrifennu llythyr agored at ysgolion ledled Cymry yn gofyn am eu cefnogaeth
Fis diwethaf, creodd Tîm Cenedlaethol Merched Cymru hanes drwy sicrhau eu gemau ail gyfle cyntaf erioed i dwrnament mawr, ac maen nhw gam yn nes at gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd Merched FIFA sy’n cael ei chynnal yn Awstralia a Seland Newydd fis Gorffennaf y flwyddyn nesaf.
Fe wnaeth eu gêm grŵp olaf yn erbyn Slofenia ddenu eu torf fwyaf erioed – 12,741, sydd dros ddwywaith eu record flaenorol.
‘I ni, iddyn nhw, iddi hi’
Yn y llythyr agored, dywed Sophie Ingle eu bod nhw wedi dod at ei gilydd fel carfan ar ddecrhau’r ymgyrch, gan ddiffinio eu pwrpas uwch a fyddai’n eu gyrru i’r lefel nesaf.
“Ein pwrpas yw: Chwarae dros newid, chwarae i ysbrydoli, I NI, IDDYN NHW, IDDI HI,” meddai.
“Rydym yn sefyll ar ysgwyddau arloeswyr wnaeth baratoi’r ffordd i ni gael y cyfle hwn i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol o flaen miloedd o bobol yn yr eisteddleoedd a llawer mwy yn gwylio ar y teledu gartref.
“Yn ystod cyfnod hanesyddol i bêl-droed merched yng Nghymru, rydym am chwarae ein rhan i sicrhau ein bod yn weladwy i ferched a bechgyn ifainc a’n bod yn creu newid ystyrlon yn ein cymdeithas ac yn creu camp lle mae merched yn teimlo eu bod yn perthyn mewn gwirionedd.”
Ar ddydd Iau, Hydref 6 (am 7.15yh), bydd y tîm yn wynebu Bosnia a Herzegovina yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Er mwyn sicrhau bod eu gemau yn hygyrch i bawb, dim ond £2 yw pris tocynnau plant fel rhan o’r cynnig archebu fel grŵp.
“Byddem wrth ein bodd yn gweld eich ysgol yn cymryd rhan fel rhan o’r Wal Goch, sy’n chwarae rhan enfawr yn ein llwyddiant,” meddai wedyn.
“Yn dilyn y gêm, bydd y garfan o 23 o chwaraewyr yn rhoi ein crysau gêm i 23 o ysgolion sy’n dod i’n cefnogi, i’w hongian yng nghoridorau eu hysgol fel atgof dyddiol i ferched a bechgyn fod pêl-droed yn gamp i bawb, a gobeithio y byddant yn ysbrydoli’r sêr y dyfodol.”