Mae tîm criced Morgannwg wedi dechrau’n gryf yn erbyn Sussex yn Hove, gan orffen diwrnod cyntaf gêm ola’r tymor ar 221 am dair, wrth iddyn nhw frwydro am ddyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth y tymor nesaf.

Mae angen iddyn nhw ennill a chael pwyntiau bonws sylweddol, a gobeithio bod Middlesex yn colli neu’n gorffen yn gyfartal yn erbyn Swydd Gaerwrangon.

Mae Middlesex wyth pwynt ar y blaen yn y tabl, ac maen nhw wedi rhoi Swydd Gaerwrangon – a Morgannwg – dan bwysau, gyda’r tîm cartref yn 167 am wyth yn eu batiad cyntaf.

Tarodd Shubman Gill, batiwr rhyngwladol India, 91 oddi ar 102 o belenni, ac mae’n dal wrth y llain, tra bod y capten David Lloyd wedi taro 56 wythnos ar ôl sgorio 313 heb fod allan yn erbyn Swydd Derby.

Manylion

Galwodd Morgannwg yn gywir a phenderfynu batio ar ôl i’r glaw ohirio dechrau’r gêm am awr.

Er i Brad Currie gipio dwy wiced, y batwyr wnaeth y defnydd gorau o’r amodau wrth i Sussex frwydro i fowlio’u gwrthwynebwyr allan ddwywaith mewn gêm am y tro cyntaf y tymor hwn.

Cafodd Faheem Ashraf ddiwrnod gwael, ac yntau’n cael treialon am dair gêm cyn i Sussex benderfynu a fyddan nhw’n ei ddenu fe atyn nhw y tymor nesaf, ac fe ildiodd e 21 rhediad mewn tair pelawd gyda’r bêl newydd cyn iddo fe gael ei dynnu allan o’r ymosod.

Ond daeth wiced i Currie yn ei bumed pelawd, wrth i Eddie Byrom gael ei synnu gan belen oedd wedi gwyro oddi wrtho, gan roi daliad i’r wicedwr Charlie Tear.

Adeiladodd Gill a Lloyd bartneriaeth o 57 mewn 12 pelawd rhwng cawodydd o law cyn ac ar ôl cinio, ac fe gyrhaeddodd Lloyd ei hanner canred am y chweched tro eleni.

Ond daeth ei fatiad i ben ar 56 oddi ar 64 o belenni pan gafodd ei daro ar ei goes gan Sean Hunt, y bowliwr llaw chwith aeth yn ei flaen wedyn i waredu Sam Northeast, a gafodd ei ddal yn isel yn y slip gan Tom Alsop.

Roedd Morgannwg erbyn hynny wedi sgorio 151 mewn 27 o belawdau, ac ychwanegodd Gill a Billy Root 70 o rediadau at y sgôr mewn 15 pelawd cyn i’r chwaraewyr adael y cae eto ar ôl te oherwydd golau gwael.

Ar ôl gwirio’r sefyllfa ddwywaith wedyn, daeth y dyfarnwyr â’r chwarae i ben am y dydd am 5.15yh.

Sgorfwrdd: https://www.espncricinfo.com/series/county-championship-division-two-2022-1310355/sussex-vs-glamorgan-1297787/live-cricket-score

Gêm enfawr i Forgannwg ar lan y môr yn Hove

Mae’r sir Gymreig yn mynd am ddyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth yng ngêm ola’r tymor yn erbyn Sussex