Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi bron i £100m i wella argaeledd gofal plant, cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg ac ariannu llefydd rhan-amser am ddim.

Mae’r cyllid yn cynnwys £26m ar gyfer cam nesaf ehangu gofal plant rhan-amser Dechrau’n Deg; £70m ar gyfer gwelliannau a gwaith cynnal a chadw hanfodol fydd ar gael i bob lleoliad gofal plant, a £3.8m i gefnogi mwy o ddarparwyr gofal plant i wella eu darpariaeth Gymraeg.

Mae’r buddsoddiad yn rhan o gynllun graddol i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg, sydd yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Cyhoeddodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, y cyllid wrth ymweld â meithrinfa Cylch Meithrin yn Abergele.

“Mae ein buddsoddiad parhaus yn y sector gofal plant yn helpu i ddarparu cyfleusterau rhagorol i blant ar draws Cymru yn ogystal â chefnogi effeithiau cadarnhaol hirdymor ar fywydau plant a theuluoedd drwy’r rhaglen Dechrau’n Deg,” meddai Julie Morgan.

“Mae’n amlwg bod darpariaeth o safon uchel yn ystod y blynyddoedd cynnar yn cefnogi datblygiad y plentyn ac yn chwarae rôl bwysig o safbwynt sicrhau bod gan bob plentyn y dechrau gorau mewn bywyd a bod pob plentyn yn mwynhau dysgu, yn ehangu ei wybodaeth ac yn gwireddu ei botensial.

“Rwy’n arbennig o falch o fuddsoddi mewn darpariaeth Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y lleoliadau cyfrwng Cymraeg a nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y gweithlu.”

‘Un o’r camau pwysicaf’

“Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu mai sicrhau mynediad at ofal ac addysg blynyddoedd cynnar yw un o’r camau pwysicaf y gallwn eu cymryd i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant,” meddai Siân Gwenllian.

“Drwy symud ymlaen ac ehangu darpariaeth gofal plant am ddim, a’i gyflwyno’n raddol i bob plentyn dwy oed, gallwn wneud gwir wahaniaeth i flynyddoedd ffurfiannol plant ledled Cymru.

“Mae plant yn dysgu ac yn elwa cymaint ar ddarpariaeth gofal plant safonol – mewn gwirionedd mae’r hyn sydd yn edrych fel chwarae syml yn brofiad addysgol pwysig lle mae plentyn yn dysgu ac yn cymdeithasu mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn darparu’r ymrwymiad pwysig hwn i’n holl gymunedau.”

Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant ifanc yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ac mae’n cynnwys gofal plant safonol rhan-amser am ddim i blant rhwng dwy a thair oed sy’n byw yn yr ardaloedd hynny.

Fis Ebrill eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai hyd at 2,500 yn fwy o blant yn gymwys ar gyfer gwasanaethau Dechrau’n Deg ar draws Cymru. Dechreuodd cam cyntaf y rhaglen ledled Cymru ddechrau mis Medi.

Bydd ail gam yr ehangu yn gwneud mwy na 3,000 yn fwy o blant dwy oed yn gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg o fis Ebrill 2023, gyda £11.65m wedi ei ddyrannu ar gyfer 2023/24 a £14.3m ar gyfer 2024/25.

Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn ystyried pa ardaloedd fydd yn cael eu cynnwys fel rhan o gam dau, a bydd teuluoedd cymwys yn cael gwybod am hynny yn y flwyddyn newydd.

Mae’r £70m ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau a gwaith cynnal a chadw ar gael i bob lleoliad gofal plant cofrestredig, a gallan nhw ymgeisio drwy eu hawdurdod lleol.

Bydd ceisiadau yn amrywio o wneud mân waith diweddaru i ofodau awyr agored i adeiladu cyfleusterau newydd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £3.8m o gyllid dros y tair blynedd ariannol nesaf i gynorthwyo darparwyr gofal plant i wella eu darpariaeth Gymraeg.

Mae’r gefnogaeth hon yn cynnwys cynyddu nifer y clybiau ar ôl ysgol cyfrwng Cymraeg cofrestredig yn ogystal â hyfforddi a chynorthwyo ymarferwyr i wella eu Cymraeg a throsglwyddo hynny i’r plant yn eu lleoliadau.

‘Achubiaeth’

Dywed Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros blant a phobol ifanc, y bydd y buddsoddiad – sy’n rhan o gynllun graddol i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru – yn “achubiaeth” i deuluoedd wrthi i’r argyfwng costau byw waethygu.

“Mae gofal plant addysgiadol o ansawdd da ac am ddim yn rhan hanfodol o roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant,” meddai.

“Yn wyneb argyfwng costau byw, fe fydd yn achubiaeth i lawer o deuluoedd, drwy ddiddymu costau, a hefyd drwy gael gwared ar y rhwystr i rieni sydd eisiau dychwelyd i’r gwaith.

“Fyddai hyn ddim wedi digwydd heb ymgyrchu diflino Plaid Cymru, a’n Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.

“Roedd gofal plant am ddim yn addewid allweddol yn ein hymgyrch etholiadol, ac rwy’n falch o rôl fy mhlaid yn dangos yr hyn y gall Cymru ei wneud pan fydd yn cymryd rheolaeth dros y grymoedd sydd ganddi.

“I Blaid Cymru, mae gofal plant am ddim i blant dwy oed yn gam cyntaf pwysig yn ein gweledigaeth ar gyfer gofal plant rhad ac am ddim i bawb.

“Mae manteision amlwg yn deillio o ofal plant am ddim yn golygu ein bod nid yn unig yn rhoi’r dechrau gorau i’n plant, ond yn mynd i wneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobol yn y tymor hwy.”

Cyflwyno’r cynllun “â’i wyneb i waered”

Er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r cyllid ar gyfer gofal plant, maen nhw’n dweud bod y ffordd mae’r cynllun yn cael ei gyflwyno “â’i wyneb i waered”.

“Mae rhagor o gyllid ar gyfer gofal plant i’w groesawu, ond o ystyried costau byw cynyddol, ddylen ni ddim anghofio y gellid dyblu’r pot cyfan o arian drwy beidio â gwario £100m ar 36 o wleidyddion newydd ym Mae Caerdydd, sy’n cael ei wthio gan Lafur a Phlaid Cymru, heb fandad gan bobol Cymru,” meddai Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Ymhellach, mae’n ymddangos o ehangu’r cynnig drwy ddarparwyr Dechrau’n Deg i ehangu eu gafael yn hytrach na thrwy, dyweder, system talebau i’r teuluoedd hynny ar gredyd cynhwysol, fod Llafur a Phlaid Cymru wedi ei gyflwyno â’i wyneb i waered.

“Gobeithio bod y Gweinidog yn ystyried hyn ac yn gwneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn rhoi terfyn ar y loteri cod post lle mae teuluoedd llewyrchus yn elwa ar y cynllun tra bod y rhai mwyaf difreintiedig yn colli allan.”