Mae prifddinasoedd Catalwnia ac Wcráin wedi dod ynghyd i fagu perthynas ddiwylliannol.

Aeth Vitali Klitschko, Maer Kyiv, i Barcelona ddoe (dydd Sadwrn, Medi 24) ar gyfer dathliadau La Mercè, ac fe wnaeth e gyfarfod ag Ada Colau, Maer Barcelona, yn Sgwâr Plaça Sant Jaume i lofnodi’r cytundeb ffurfiol.

Mae’r ddau wedi galw am heddwch yn Wcráin, gan bwysleisio’r cysylltiadau rhwng dinasoedd Barcelona a Kyiv.

“Fyddwn i ddim yn sôn am ‘wrthdaro’ ond yn hytrach, meddiannu sydd yn annheg, yn greulon, yn groes i gyfraith ryngwladol, a bod yna droseddau rhyfel,” meddai Ada Colau.

“Rydyn ni’n brwydro tros werthoedd, yr un gwerthoedd sydd gan Barcelona, Berlin, Paris a dinasoedd Ewrop,” meddai Vitali Klitschko.

“Ac rydyn ni’n brwydro dros ddyfodol ein mamwlad.”

La Mercè

Rhufain sy’n cynnal La Mercè eleni, a chafodd Vitali Klitschko wahoddiad i’r digwyddiad ar y penwythnos pan fo etholiadau’r Eidal yn cael eu cynnal.

“Dw i’n hapus iawn i fod yma ac i weld trigolion Barcelona yn dathlu eu parti,” meddai.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd y ddwy ddinas yn cynnal dathliadau diwylliannol ar y cyd.